Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

YMGYRCH YN DADORCHUDDIO PENCAMPWYR ORGANIG

Mae ffermwr llaeth cydweithredol, cynhyrchydd cig oen a chig eidion, arbenigwr dofednod, pen-cogydd ethegol a garddwr masnachol wedi ymuno â’i gilydd i ledaenu’r gair am fuddion bwyd a ffermio organig fel rhan o ymgyrch newydd.

Mewn amser o ymwybyddiaeth gryfach ymysg cwsmeriaid – mae ymchwil* a gafodd ei gyhoeddi yr wythnos ddiwethaf yn awgrymu bod 8 allan o 10 defnyddiwr yn y DU eisiau gwybod o le mae’u cynnyrch cig a llaeth yn dod – mae Canolfan Organig Cymru (COC) wedi dewis pum “Pencampwr” ac wedi’u gwahodd i rannu eu straeon er mwyn ysbrydoli siopwyr Cymreig i ddarganfod mwy am fwyd organig.

“Mae yna rhai enghreifftiau gwych o gynhyrchwyr, manwerthwyr, pen-cogyddion a pherchnogion tai bwyta ar hyd a lled Cymru sydd wedi mabwysiadu egwyddorion bwyd a ffermio organig,” meddai Neil Pearson o COC. “Mae’r fenter hon yn ffordd i gydnabod hyn, ac ar yr un pryd, yn egluro’r gwahaniaethau pwysig, go iawn i ddefnyddwyr ynglŷn â chynhyrchu bwyd organig a’r buddion sydd yn mynd gyda nhw.”

Mae pob un o’r pum Pencampwr yn cynrychioli rhannau gwahanol o’r diwydiant bwyd yng Nghymru – cig coch, llaeth, ffermio dofednod, garddwriaeth a’r fasnach arlwyo – ac mae ganddyn nhw i gyd wahanol straeon a rhesymau pam y maen nhw’n cefnogi egwyddorion ffermio organig. Dros y chwe mis nesaf, bydd yr ymgyrch yn datgelu ychydig mwy am pob un o’r unigolion drwy gyfuniad o straeon o’u ffermydd, eu dyddiaduron fideo a’u blogiau, a hyd yn oed, eu hoff ryseitiau organig.

Bydd Sophie Durnan, sy’n rhedeg Gardd Fasnachol Riverside yn Y Bont-faen, yn pleidio achos buddion garddwriaeth organig. Cymerodd yr awenau yn yr ardd fasnachol 5-erw sy’n cael ei ffermio’n organig yn 2011 ac mae hi’n cyflenwi llysiau organig ar gyfer siopau deli a thai bwyta lleol, yn ogystal ag oddeutu 50 o gwsmeriaid rheolaidd i’r cynllun blwch.

I Sophie, natur gynaliadwy ffermio organig sy’n bwysig iddi.

Dywedodd, “Fel un 18 oed mi wnes i fynd i uwchgyfarfod byd yn Johannesburg a chael gweld arweinwyr byd yn dadlau polisi amaethyddol a gwnaeth hynny fy nghymell ar fy nhaith gynaliadwyedd. Dw i’n dod o deulu o artistiaid a threuliais fy mhlentyndod eisiau bod yn ffermwr, yn awr dw i’n byw’r freuddwyd, ond gallaf ddweud i sicrwydd ei fod yn waith llawer caletach nag a feddyliais.”

“Mae gan ein cwsmeriaid rheolaidd y sicrwydd sy’n mynd efo egwyddorion organig ffermio. I’r bwytai rydym yn eu cyflenwi, mae gwybod y gallan nhw roi addewid cadarn i’w cwsmeriaid bod eu bwyd yn dod o ffynhonnell leol a chynaliadwy.”

Mae gan COC, sydd wedi cefnogi cynhyrchwyr organig yng Nghymru ers dros 10 mlynedd, dudalennau pwrpasol ar ei dudalen Facebook Facebook am y Pencampwyr, a fydd yn ymddangos yn ogystal mewn digwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf a Gŵyl Fwyd y Fenni ym mis Medi.

Dywedodd Neil Pearson, “Rydym ni’n gwybod bod cymhelliad pobl dros ddewis organig yn gallu bod yn wahanol iawn. I rai pobl blas ac ansawdd sy’n bwysig, i bobl eraill tarddiad a’r hyder ynghylch lle mae’r bwyd wedi dod a sut y mae wedi cael ei gynhyrchu sy’n bwysig. I’r Pencampwyr eu hunain, un o’r egwyddorion allweddol y maen nhw i gyd yn ei rannu yw’r angen i leihau’r effaith y gall cynhyrchu bwyd ei gael ar yr amgylchedd.”

Er gwaethaf yr adroddiad diweddaraf ar y farchnad oddi wrth Gymdeithas y Pridd, sy’n dangos gostyngiad o 1.5% mewn gwerthiant organig tebyg wrth debyg ar draws y DU, mae yna nifer o dueddau cadarnhaol yn y sector organig Cymreig. Datgelodd Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru bod galw cryf am gig organig, gyda gwerthiant cig eidion i fyny 32% a chig oen [parod ar gyfer y farchnad] i fyny 69%, yn ogystal â thyfiant o 10.6% yng ngwerthiant llaeth organig. Tra bod y ffigyrau hyn, a gafodd hwb gan nifer o ffermydd Cymreig yn cwblhau eu hardystiad organig yn 2011-12, yn galonogol, mae pryder y bydd y cyfuniad o bwysau ar brisiau bwydydd organig a newidiadau i daliadau cefnogi ar gyfer ffermwyr organig yn gorfodi llawer o gynhyrchwyr organig Cymru i ddychwelyd i gynhyrchu anorganig dros yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Yn ogystal, mae Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru wedi amlygu’r tyfiant mewn gwerthiant uniongyrchol yn ystod 2012, gyda bron i draean (28%) o gynhyrchwyr sy’n gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd yn profi cynnydd mewn gwerthiant, tra’r oedd 55% yn adrodd nad oedd newid arwyddocaol wedi digwydd. Mae cig (48%) a llysiau (29%) yn parhau i reoli’r farchnad gwerthiant uniongyrchol, gyda mwy na hanner (54%) o’r cynhyrchwyr sy’n gwerthu’n uniongyrchol yn dibynnu ar gwsmeriaid unigol am dros 80% o’u trosiant.

Mae’r arolwg diweddaraf, y tro hwn yn mesur agweddau siopwyr yng Nghymru tuag at fwyd organig, wedi darganfod bod bron i dri-chwarter (74%) o bobl yn cytuno bod ffermio organig yn golygu gwell safonau lles anifeiliaid, tra bod oddeutu dwy ran o dair (64%) yn meddwl bod cynnyrch organig yn iachach i chi. Roedd yr astudiaeth hon, a oedd yn seiliedig ar sampl gynrychioliadol o 700 o’r siopwyr bwyd pennaf yng Nghymru, wedi’i cynnal gan Beaufort Research ym mis Mai 2013.

DIWEDD

Stori gynt: Hybu’r Nod Arlwyo yng Nghymru
Stori nesaf: Mae’r gwasanaeth gwybodaeth organig yn ôl mewn busnes: ymunwch yn y sgwrs yn Sioe Frenhinol Cymru

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.