Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Adroddiad Cymdeithas y Pridd ar y Farchnad 2014

Mae Adroddiad Cymdeithas y Pridd ar y Farchnad Organig 2014 yn dangos bod y farchnad organig y DU yn 2013 unwaith eto’n tyfu – y tro cyntaf er 2008. Tyfodd y farchnad organig gyfan 2.8% yn 2013 o’i chymharu â’r flwyddyn gynt a’i gwerth oedd £1.79 biliwn. Mae gwerthiant organig yn tyfu ychydig o flaen gwerthiant nwyddau bwyd cyffredinol ar gyfer 2013 a orffennodd y flwyddyn oddeutu 2.1% ar i fyny.

Roedd twf y gwerthiant ar ei gryfaf yn y mannau gwerthu hynny lle y gall siopwyr organig gael hyd i ystod werth chweil o gynhyrchion organig, megis manwerthwyr annibynnol (+6.9%), gwerthu ar-lein a chynlluniau blychau (+11%) ac arlwyo (+10%), Cynyddodd y gwerthiant cyffredinol mewn archfarchnadoedd 1.2%, ond mae gwahaniaethau amlwg yn y sector, a Sainsbury’s bellach yw manwerthwr mwyaf y DU gyda 29% o’r farchnad. Yn ôl Cymdeithas y Pridd, mae hyn yn dangos bod archfarchnadoedd eraill eto i fanteisio ar alw cynyddol defnyddwyr am nwyddau organig.

Mae hyder yn dychwelyd i werthiant organig gan y disgwylir iddo barhau i dyfu yn 2014, ond ni ellir dweud yr un peth am gynhyrchu organig. Mae ffigurau Defra ar gyfer diwedd 2012 yn dangos bod tir organig yn gostwng o’i gymharu â’r flwyddyn gynt ym mhob un o wledydd y DU er nad yw data ar gyfer 2013 eto ar gael. Mae data’r Ganolfan Ymchwil Organig o arolwg cynhyrchwyr bychain yn Lloegr yn dangos bod hyder i’w weld yn dychwelyd yn araf ymysg cynhyrchwyr, ond nododd tua 3% o’r ymatebwyr eu bod yn bwriadu gadael y sector organig yn y flwyddyn sy’n dod. Canfu Arolwg Cynhyrchwyr Cymru fod tua 20% o gynhyrchwyr wedi tynnu’n ôl o’r sector yn 2013. Y gobaith yw y bydd y gwneuthurwyr polisi’n gweld y cyfle y mae’r farchnad gynyddol yn ei gynnig ac yn gwneud y penderfyniadau cywir wrth lunio’r cynlluniau cymorth organig newydd fel rhan o PAC. darllen mwy   

Stori gynt: Penodi Roger Kerr
Stori nesaf: Ymgynghoriad y Rhaglen Datblygu Gwledig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.