Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Diwygiad grawn Cymru

Cynhaliodd Fforwm Grawn Cymru ei drydydd cyfarfod ddydd Llun 16 Mehefin yn fferm Ewan Brook ger Crucywel a Melin Talgarth. Cymuned sy’n cynnwys tyfwyr, melinwyr, pobwyr, bragwyr, towyr ac eraill sy’n ymrwymedig i ddefnyddio a hyrwyddo grawn Cymru yw’r fforwm a sefydlwyd gyda chymorth BOBL ym 2013. Un o’i brif nodau yw meithrin cysylltiadau rhwng ac oddi mewn i wahanol rannau o’r gadwyn gyflenwi, a dyna brif ddiben y cyfarfod hwn.

Mae Roger Bufton yn tyfu 50 ha o rawn organig ger Crucywel ac yn gynhyrchydd cnydau âr profiadol ar gyfer had a phorthiant. Eleni, mae’n mynd i gyfeiriad newydd, gan dyfu gwenith Miluka i’r farchnad felino. Yn y tymor hirach, mae ganddo ddiddordeb mewn cydweithio’n uniongyrchol ag aelodau’r grŵp grawn ac mae am edrych ar y cyfleoedd i dyfu mathau eraill o rawn megis haidd bragu a rhyg. Mae’r fferm yn addas iawn ar gyfer tyfu amrywiaeth eang o gnydau a chyda chyfleusterau storio, sychu a glanhau ar gael, mae mewn lle da i gydweithio â busnesau grawn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Roger ar 01874 731087.

Roedd ail ran y diwrnod yn cynnwys ymweliad â Melin Talgarth, dan arweiniad Gez Richards, i weld y felin ar waith a thrafod y cyfleoedd i ddefnyddio mwy o flawd o Gymru. Mae galw bach ond cynyddol am flawd o rawn megis gwenith yr Almaen, rhyg, eincorn ac amrywogaethau ‘treftadaeth’ o wenith y gallai’r grŵp fanteisio arnynt, er, ar hyn o bryd, ceir anawsterau wrth gael gafael ar had y byddai’n rhaid eu goresgyn. Ymgyrch i hyrwyddo bara o ansawdd da’n gyffredinol a bara o flawd Cymreig yn benodol, a gweithdai i bobwyr ar dechnegau a chynhyrchion sy’n gweddu’n arbennig i rawn o Gymru yw’r prif elfennau wrth feithrin y galw, ac mae’r ddau weithgaredd yma’n cael eu cynnwys yn y cynigion i estyn y prosiect BOBL.

Am fwy o wybodaeth am y Fforwm, cysylltwch â 01970 621632.

Stori gynt: Cyhoeddi cyfraddau taliadau Cynllun Glastir Organig
Stori nesaf: Gwyl wanwyn 2014

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.