Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Arwyr bwyd lleol canolbarth a gogledd Cymru

Mae’r Cambrian News yn chwilio am unigolion a busnesau sy’n tyfu, cynhyrchu ac yn gwerthu’r cynnyrch lleol gorau yng nghanolbarth a gogledd Cymru. Fe fydd yn cynnig gwobrau mewn dau gategori: Pencampwr Gwerthu Uniongyrchol 2010 ac Adwerthwr Bwyd Lleol y Flwyddyn.

Noddi’r categori’r Pencampwr Gwerthu Uniongyrchol gan yr ymgyrch Bwyd Blasus gan Bobl Go Iawn, ac y mae’n agored i gynhyrchwyr unigol, perchnogion siopau fferm, marchnadoedd ffermwyr lleol a threfnwyr marchnadoedd, arwerthwyr ar-lein, cwmnïau llysiau cydweithredol, trefnyddion cynlluniau bocs, a gwerthwr llidiart fferm. Mae categori Adwerthwr Bwyd Lleol y Flwyddyn yn agored i farchnadoedd adwerthu lleol annibynnol sy’n hyrwyddo ac yn arddangos bwydydd lleol.

Bydd y darllenwyr sy’n enwebu enillwyr cystadleuaeth Arwyr Bwyd Lleol y Cambrian News 2010 hefyd yn ennill basgedaid o gynnyrch lleol. Mae Liz Findlay, ffermwr organig o Geredigion sy’n cynhyrchu llysiau, wyau a ffrwythau meddal, eisoes wedi ei henwebu.

I bleidleisio ar-lein, ewch i wefan y Cambrian News.

Stori gynt: Datblygu cyflenwi cywennod organig yng Nghymru
Stori nesaf: Cwrs hyfforddiant ymweliadau ysgolion (CEVAS) ger Aberhonddu, 16/30 Ebrill

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.