Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Arolwg o Agweddau Defnyddwyr

Yn dilyn cyflwyniadau gan dri thendr ar restr fer, mae’r contract i gynnal Arolwg o Agweddau Defnyddwyr wedi’i roi i Beaufort Research. Mae’r cyflwyniadau wedi ysgogi dadl a ddylai’r arolwg ddilyn llwybr ansoddol neu feintiol, hy, a ddylai’r gwaith astudio beth sy’n digwydd neu pam mae’n digwydd. Casgliad y panel dethol oedd bod digon o ddata ynglŷn â pham mae newidiadau’n digwydd i lunio arolwg ansoddol a fyddai’n pennu gwerth segmentau’r farchnad.

Yn ystod cyfnod cyntaf y prosiect, bydd Beaufort Research yn adolygu gwybodaeth sy’n cael ei chyflenwi gan Kantar (TNS) yn ogystal â ffynonellau eraill a sawl cyhoeddiad diweddar. Dilynir yr arolwg gan gyfweliad â rhanddeiliaid dethol sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd organig. Cyflwynir yr wybodaeth mewn adroddiad Cyfnod 1 a fydd yn llywio cyfeiriad y cwestiynau a ofynnir i 700 o ddefnyddwyr yng Nghymru a 700 o rai eraill yn Lloegr. Bydd y canlyniadau’n adnabod segmentau’r farchnad sydd â’r potensial mwyaf ac ar sail hyn bydd cynhyrchwyr organig yn gallu targedu sut y maent yn hyrwyddo eu cynnyrch. Bydd y canlyniadau’n cynnig llinell sylfaen effeithio i arolwg arall gael ei gynnal tua diwedd y prosiect ymhen dwy flynedd. Bydd adnabod segmentau’r farchnad hefyd yn helpu wrth ddatblygu negeseuon allweddol ar gyfer strategaeth cysylltiadau cyhoeddus integredig.

Stori gynt: Gwobr i arloeswr ffermio organig
Stori nesaf: Strategaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Integredig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.