Mae ymgyrch y Bwrdd Masnach Organig bellach wedi lansio gwefan i gefnogi’r ymgyrch. Os am ddysgu mwy ac i edrych ar sut mae’n mynd ymwelwch â: whyiloveorganic.org.uk. Mae’r ymgyrch wedi’i hariannu gan roddion gan gynhyrchwyr organig sydd wedi addo dros £300,000 y flwyddyn am dair blynedd. Mae’r Bwrdd yn gwneud cais am gyllid cyfatebol gan yr UE a fyddai’n dyblu’r arian sydd ar gael i hyrwyddo cynnyrch organig.
Bydd yr ymgyrch yn cyfleu manteision a gwerth bwyd organig i brynwyr sylweddol gan roi sicrwydd iddynt trwy resymau eraill heblaw llesiant dros ddewis cynnyrch organig trwy gadw’r negesau ar flaen y meddwl. Cynhelir sylw’r rhanddeiliaid – ffermwyr, cynhyrchwyr, dosbarthwyr, sefydliadau achredu ac yn y blaen – trwy osod sylfaen gyson.
Bydd y gweithgareddau’n cynnwys ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ddwys yn y cyfryngau i sicrhau ac addysgu’r gynulleidfa darged ynglŷn â manteision cynnyrch organig. Bydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar yr agweddau presennol tuag at gynnyrch organig ar sail ymchwil benodol. Bydd dylanwadwyr yn cael eu defnyddio i ysgogi trafodaeth y bydd ei chynnwys wedi’i hau trwy ddulliau blogio. Yr amcan yw tanio’r ddadl organig ar-lein gan harneisio cymwysiadau cyfryngau cymdeithasol megis Twitter a Facebook.