Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Ffermwyr organig o Ganada yn ymweld â Chanolfan Organig Cymru ac IBERS

Y mis hwn, bydd Canolfan Organig Cymru ac IBERS Gogerddan yn croesawu 15 o gynhyrchwyr a chynghorwyr organig o Quebec yng Nghanada sydd â diddordeb mewn ffermio llaeth organig.

Mae’r Canadiaid, a ddaw o goleg hyfforddi sydd wedi hen ennill ei blwyf yn Victoriaville, Quebec, yn treulio ychydig o ddyddiau yng Nghymru ar ddiwedd eu pythefnos o daith i’r DU i ymweld â gwahanol fentrau, gan gynnwys Canolfan Organig Cymru. Dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru “Rydym yn edrych ymlaen at yr ymweliad ac yn gobeithio y byddwn yn gallu cynnig arolwg cynhwysfawr o’r gwaith ymchwil a wneir yn IBERS i’r ffermwyr hyn, yn ogystal â rhoi darlun o gynhyrchiad a chymorth organig yng Nghymru ar hyn o bryd.”

Gan eu bod hefyd â diddordeb mewn trosglwyddiad gwybodaeth, byddant hefyd yn ymweld â’r uned ymchwil bridio meillion yn IBERS Gogerddan ac yn cwrdd â Dr. Heather McCalman, Rheolwraig y Ganolfan Datblygu Tir glas i siarad am raglenni ymchwil cnydau âr a phridd cyfranogol sy’n ymwneud â ffermwyr.

Stori gynt: Holiadur Twristiaeth
Stori nesaf: Llyfryn newydd: Cynhyrchu dofednod organig ar gyfer cig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.