Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Ffermwyr i’w gwobrwyo am gynlluniau gwyrdd bychain

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chyswllt Ffermio, gwasanaeth cefnogi Llywodraeth Cynulliad Cymru i ffermwyr, yn lansio cynllun gwobrwyo heddiw (Ebrill 1af) i gydnabod a gwobrwyo ffermwyr sy’n gwneud newidiadau bychain i’w ffermydd er mwyn gwella elw a gwella’r amgylchedd yn lleol.

Mae’r ddau sefydliad yn lansio cynllun Gwobr Ffermio Syniadau Syml unigryw ac yn galw ar ffermwyr ledled Cymru i gyflwyno’u cynlluniau.

Bydd yr enillydd yn derbyn cyngor proffesiynol (gwerth £1,000) oddi wrth ymgynghorydd cymeradwy Cyswllt Ffermio yn ogystal â £1,250 oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i gynnal rhagor o welliannau amgylcheddol ar y fferm. Bydd yr ail orau’n derbyn grant o £750 ar gyfer gwaith ar ei fferm.o

Enghreifftiau o’r cynlluniau y gellid eu cyflwyno am yr wobr ffermio Atebion Syml yw:

• Gwelliannau i lwybrau gwartheg i leihau cloffni a lleihau dŵr ffo
• Gorchuddio storfeydd piswail sy’n cynyddu storfa piswail ac yn cynyddu cynnwys maetholion
• Creu system gwely cyrs i lanhau dŵr llwyd o fuarthau a lleihau dŵr ffo
• Gosod to rhag i law ddisgyn ar fuarthau a lleihau faint o ddŵr budr y bydd raid ei drin
• Casglu dŵr glaw a’i ddefnyddio fel dŵr yfed i’r stoc

Rhaid derbyn ceisiadau erbyn 25 Mehefin 2010 a chyhoeddir yr enillwyr yn y Sioe Fawr.

Am fanylion llawn a ffurflen gais, cysylltwch â neu ffoniwch Michelle Duggan ar 02920 466 029.

Stori gynt: Swydd wag: Swyddog Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi
Stori nesaf: Wythnos Gynaliadwyedd Cymru, 17-23 Mai 2010

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.