Diben y Gronfa Her Datblygu Gynaliadwy yw cefnogi sefydliadau, cymunedau a busnesau i ddatblygu dulliau arloesol newydd o ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru. Caiff cyfres o weithdai ‘Hay on Earth’ eu cynnal fel rhan o Wyl y Gelli.
Bydd pob gweithdy yn rhoi cyfle i sefydliadau ddatblygu dulliau newydd ac arloesol o hybu datblygu cynaliadwy (DC).
Dyma fydd themâu pob gweithdy ‘Hay on Earth’:
• Dydd Mawrth 1 Mehefin – trafnidiaeth a mynediad
• Dydd Mercher 2 Mehefin – amaethyddiaeth a bwyd
• Dydd Iau 3 Mehefin – busnes, gwasanaethau a nwyddau newydd
• Dydd Gwener 4 Mehefin – y gymuned a chartrefi.
Bydd pob gweithdy yn rhoi’r cyfle i sefydliadau datblygu ei syniadau prosiect DC. Bydd panel yn asesu’r prosiectau ar ddiwedd pob gweithdy. Cynigir grant hyd at £10,000 i ddatblygu’r prosiectau gorau.