Mae croeso i bob busnes organig fynychu gweithdy i drafod dyfodol garddwriaeth organig yng Nghymru, ar 3 Rhagfyr yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth.
Mae pedair thema eglur wedi ymddangos a fydd yn ffurfio sylfaen y gweithdai: dod o hyd i farchnadoedd newydd; gweithio mwy gyda’n gilydd; cyflwyno a gwerthu ein cynhyrchion yn well; a gweithio’n fwy agos gyda chymunedau lleol.
Dywedodd Tony Little, un o drefnwyr y gweithdai, “Mae’r cyfarfod hwn yn dod ar adeg dyngedfennol. Mae llawer o fusnesau yn cael trafferthion yn sgil cyfres o dymhorau tyfu gwael, tro ar i lawr yn y farchnad organig, a chystadleuaeth o du cynnyrch a dyfir gartref. Prif amcan y gweithdy yw llunio cynllun gweithredu i’n cael ni drwy’r cyfnod anodd hwn, ac y mae angen i bawb sy’n ymwneud â garddwriaeth organig yng Nghymru heddiw chwarae rhan yn hynny”.