Y Gymru Organig yn blasu llwyddiant yn y Gwobrau Cenedlaethol
Bu busnesau organig ar draws Cymru’n blasu llwyddiant yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Bwyd a Diodydd Cymru: Y Gwir Flas eleni. Mae’r seremoni wobrwyo yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg ac fe’i cynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd ar 25 Hydref i ddathlu’r bwyd a’r ddiod gorau sydd gan Gymru i’w cynnig.
Unwaith eto, bu’r sector organig yn perfformio’n benigamp, gan gipio wyth gwobr o fewn i gategorïau hynod gystadleuol cig oen, godro ac allforio. O blith yr wyth gwobr hyn, enillwyd dwy Wobr Aur, pedair Arian a dwy Efydd gan y sector organig. Yn eu plith aeth Caws Cenarth o Aberteifi adre â Gwobr Arian y Cynhyrchydd Bach am eu caws Cenarth Aur.
‘Yma yn Caws Cenarth rydyn ni wastad wedi credu bod defnyddio llaeth organig yn cynhyrchu caws sy’n blasu’n wych ac mae’r wobr hon yn ychwanegu at yr anrhydeddau niferus sydd wedi’u casglu gan ein cawsiau organig dros y blynyddoedd. Heb os, mae’n dangos bod llawer o bobl eraill yn gwerthfawrogi blas bendigedig ac yn cytuno ag ethos cynhyrchion organig.’
Yn ôl Neil Pearson, Rheolwr Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Mae’r gwobrau hyn yn gamp wirioneddol gadarnhaol i nwyddau organig Cymru ac yn wobr ffantastig i’r dynion a merched busnes arloesol a mentrus ym myd ffermio organig. Mae’n dangos yn glir bod busnesau organig yn cynhyrchu bwyd sy’n blasu’n rhagorol yn ogystal â chydymffurfio â chanllawiau moesegol ac amgylcheddol llym ffermio organig.”
Er nad yw’n cyfrif ond am nifer cymharol fach o ffermydd Cymru (8%), creodd y sector organig argraff ar banel beirniaid y Gwir Flas oedd yn cynnwys pen-cogyddion, awduron bwyd, arbenigwyr yn y diwydiant a newyddiadurwyr a roddodd sgôr i’r cynnyrch ar sail eu cynhwysion, eu hoglau, y golwg sydd arnynt, eu ‘cnoadwyedd’ a’u blas. Cynhyrchwyr organig hefyd a gyrhaeddodd y brig o ran perfformiad mewn marchnadoedd allforio dros y 12 mis diwethaf gan roi hwb arall i’r sector i’w groesawu.
Yn dilyn seremoni Gwobrau y Gwir Flas, bydd Cegin Symudol y Gwir Flas a noddir gan Ganolfan Organig Cymru, yn teithio siopau Tesco o gwmpas y wlad i roi’r cyfle i ddefnyddwyr i flasu’r bwyd Cymreig arobryn drostynt eu hunain.