Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Cyflwyniad i dystysgrifio organig ar gyfer ffermwyr a thyfwyr

Er mwyn cael gwerthu cynnyrch organig, mae’n rhaid eich bod wedi cofrestru gydag un o’r cyrff rheoli (gynt a elwir yn gyrff tystysgrifio organig) sydd wedi eu nodi ar y daflen hon. Cwmnïau preifat ydynt, wedi eu trwyddedu gan Llywodraeth y DU i oruchwylio eich bod yn cydymffurfio â’r safonau organig. Mae’r safonau yn gynhwysfawr, yn ymwneud â phob agwedd o gynhyrchu organig, o driniaethau pridd, bwydydd anifeiliaid, cynlluniau iechyd hyd at sut mae rheoli carthion anifeiliaid. Gosodir y safonau sylfaenol gan yr Undeb Ewropeaidd a’u dehongli gan DEFRA o dan reolaeth yr ‘United Kingdom Accreditation Service’ (UKAS)). Cyfrifoldeb y corff rheoli yw diogelu bod y ffarmwr yn cydymffurfio â’r safonau hyn, ac weithiau bydd y corff rheoli yn gosod safonau uwch.

Swyddogaeth arall sydd gan y corff rheoli yw trwyddedu’r cysylltiadau arall yn y gadwyn fwyd sef proseswyr a’r lladd-dai. Weithiau byddant yn tystysgrifio bwyd organig sydd yn cael ei fewnforio. Pan yn gwneud cais i dystysgrifio, byddwch yn derbyn copi o safonau’r corff y dewisoch ac mae’n ofynnol i chi lynu at y rhain yn ffyddlon. Er mwyn profi hyn, rhaid cadw cofnodion manwl, a chael ymweliad blynyddol gan archwiliwr. Mae yna elfen o hyblygrwydd i’r safonau sydd yn galluogi’r archwiliwr i farnu pob achos yn annibynnol. Mewn rhai amgylchiadau gellir gwneud cais i’r corff rheoli am ran-ddirymiad (‘derogation’), neu ganiatâd swyddogol i wyro oddi wrth y gofynion, gan nad yw’r farchnad organig wedi llawn datblygu eto ac mae rhai elfennau angenrheidiol yn brin. darllen mwy   

Stori gynt: Organic and conventional farm incomes on a par
Stori nesaf: Nutritional benefits of organic food

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.