Oes aur ar gyfer y ‘pinta’ organig fel elw yn codi
Mae adroddiad ariannol newydd a gyhoeddwyd y mis hwn yn dangos elw fferm organig yn cynyddu, gyda ffermio llaeth organig yn perfformio’n well na ffermio llaeth confensiynol yng Nghymru a Lloegr.
Mae’r adroddiad manwl ariannol ar ffermio organig yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2014/15, a gynhaliwyd gan y Ganolfan Ymchwil Organig ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn amlygu bod y diwydiant llaeth organig bellach yn cynhyrchu elw uwch na’r ffermydd confensiynol er gwaethaf cynhyrchu llai o gynnyrch. Mae’r sector hefyd yn cystadlu’n llwyddiannus am fusnes allforio newydd mewn gwledydd fel Tsieina ac UDA.
Mae dadansoddiad o ddata 2014/15 yn dangos bod ffermydd organig wedi cyflawnu proffidioldeb uwch neu yn debyg i ffermydd confensiynol tebyg, ac ar ffermydd gwartheg a defaid mewn ardaloedd llai fafriol (LFA) bod elw ffermio’n organig yn ystadegol uwch na ffermydd confensiynol. Ar y lefel menter, roedd ymylon net llaethyddiaeth organig yn uwch na’r lefel confensiynol, tra ar gyfer mentrau cig eidion a defaid, roedd ymylon organig ar y blaen i’r sector confensiynol. Roedd mentrau cnydio hefyd yn dangos sefyllfa gadarnhaol ar gyfer y rhan fwyaf o weithgareddau organig, ac felly gellir dod i’r casgliad, gan ychwanegu taliadau cymorth, bod ffermydd organig yn perfformio ar lefel debyg neu’n well na ffermydd confensiynol tebyg.