Naws Cymreig ar Ymgyrch Newydd Dynnu Sylw at Fuddion Nwyddau Organig
Nod yr ymgyrch £2m, a’i hariannur gan fusnesau organig ag arian cyfatebol gan yr UE yw gwahodd cwsmeriaid i ddarganfod beth mae organig yn ei olygu, drwy herio eu canfyddiadau a darganfod eu rheswm eu hunain dros ddwlu arno. Yng Nghymru bydd OCW yn sicrhau sylw dwyieithog, a defnyddio’r negeseuon i gefnogi gwaith hyrwyddo cyffredinol o dan y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organic (BOBL)
Gan lansio ym mis Ionawr 2011 o dan y faner ‘Mae llwyth o resymau dros ddwlu ar organig – darganfyddwch un eich hunan’, mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebu yn y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol, gan anelu at ddemocrateiddio’r byd organig drwy ddefnyddio pobl gyffredin i siarad am eu rhesymau dros brynu a dwlu ar organig.
Dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr OCW: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl am fwyta bwyd naturiol sy’n blasu’n wych a dyna’n union beth mae pobl yn disgwyl oddi wrth fwyd organig. Bydd yr ymgyrch yma yn codi proffil bwyd organig a rhoi cyfle i gwsmeriaid i ddarganfod beth yn union mae’n ei olygu”
Bydd hysbysebion yn y wasg yn ymddangos mewn nifer o gylchgronau cenedlaethol dros gyfnod o 9 mis ym mhob un o 3 blynedd y rhaglen. Yn gysylltiedig a hwn bydd gwaith PR yn canolbwyntio ar storiau tymhorol, astudiaethau achos, cystadlaethau a ryseitiau blasus organig.
Mae gwefan newydd (www.whyiloveorganic.co.uk <http://www.whyiloveorganic.co.uk>) hefyd wedi’i chreu a fydd yn arddangos buddion bwyd organig, yn cynnwys y newyddion diweddaraf ac awgrymiadau ar gyfer ryseitiau. Bydd y wefan hefyd yn cynnig fforwm i ddefnyddwyr fynegi a rhannu eu barn a’u rhesymau dros ddwlu ar organig, a bydd yn ategu’r tudalennau ar Facebook a Twitter sydd hefyd yn cael eu creu i gefnogi’r ymgyrch.
Mae dros 90 o sefydliadau wedi addo’i harian eu hun i’r ymgyrch, yn cynnwys busnesau organig Cymreig Calon Wen, Omsco, Daioni, Graig Producers, Rachel’s, Rhug Estate, Slade Farm a Chymdeithas Gwartheg Duon Cymreig, ac archfarchnadoedd yn cynnwys Sainsbury’s, Tesco a Waitrose.
Mae’r ymgyrch yn y DU yn cael ei reoli gan yr elusen fwyd Sustain sy’n gweithio gyda’r asiantaeth Haygarth a bydd e’n para am dair mlynedd rhwng Hydref 2010-2013.