Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Datganiad i’r Wasg

Prosiect yn cynnig arbedion i fusnesau organig yng Nghymru

Mae cyfle ar gynnig i fusnesau sydd ar waith yn y sector organig yng Nghymru i arbed hyd at 25 y cant yng nghostau eu cadwyn gyflenwi, diolch i brosiect cynaliadwyedd newydd sy’n cael ei gynnal gan y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL).

Mae’r prosiect, sy’n amcanu at gynorthwyo datblygu’r sector organig yn gynaliadwy yng Nghymru, yn chwilio am hyd at 25 o fusnesau organig i gymryd rhan mewn rhaglen lle y byddant yn derbyn cymorth ac ymgynghori busnes di-dâl gan arbenigwyr cynaliadwyedd, Weir Total Supply Chain Sustainability.

Bydd y prosiect yn gweithio â’r cwmnïau a ddewisir i feincnodi eu cadwyni cyflenwi, gan adnabod cyfleoedd a datblygu cynllun gweithredu cynaliadwyedd a allai arwain at 25 y cant o ostyngiad yng nghostau eu cadwyn gyflenwi, at leihau’r effaith ar yr amgylchedd ac at wella enw da’r busnes a’i gyfran o’r farchnad.

Yn ôl Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru, Sue Fowler: “Mae cefnogi datblygu busnesau organig yn gynaliadwy yng Nghymru’n ganolog i amcanion y prosiect BOBL. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo pob rhan o’r gadwyn gyflenwi organig i ddeall eu hôl troed cynaliadwyedd ac i wella perfformiad eu busnes dros amser.

“Rydym yn gwybod y bydd y prosiect cynaliadwyedd hwn o ddiddordeb i gynhyrchwyr organig ledled Cymru gan ei fod yn cynrychioli cyfle i leihau costau dosbarthu a gwastraff ac, ar yr un pryd, gael pris uwch am eu cynhyrchion. Mae gan gynhyrchwyr organig ddiddordeb mawr hefyd yn yr hyn sy’n digwydd i’w cynhyrchion unwaith iddynt adael y cam cynhyrchu: mae uniondeb. ffresni ac ansawdd y cynnyrch pan fydd yn cyrraedd y cwsmer/defnyddiwr yn hollbwysig. Bydd yr hyn a ddysgir trwy’r prosiect hwn yn galluogi’r gymuned fusnes organig gyfan yng Nghymru i fod yn fwy proffidiol, yn fwy cynaliadwy a bod yn batrwm enghreifftiol o ran perfformiad amgylcheddol.”

Bydd y prosiect yn edrych ar gadwyn gyflenwi’r broses gyfan, o’r chwilio am ffynhonnell a phrynu deunyddiau crai: prosesu, deunydd pacio a storio i’r dosbarthu, gwerthu a defnyddio’r cynhyrchiom – hyd yn oed drwodd i unrhyw wastraff ar ôl iddynt gael eu defnyddio.

Yn ôl rheolwr prosiect Weir Total Supply Chain Sustainability, Chris Stanley: “Mae’r prosiect hwn yn cynnig cyfle unigryw i fusnesau organig yng Nghymru i ehangu eu cyfran o’r farchnad, i leihau eu costau ac i wella cynaliadwyedd.”

“Ceir manteision economaidd amlwg megis gwella ffiniau elw ar draws y gadwyn gyflenwi ynghyd â rheoli risgiau a chostau’n well. Bydd y prosiect yn cyfuno’r rhain ag amrywiaeth eang o agweddau ar gynaliadwyedd gan gynnwys ffactorau amgylcheddol megis ynni, gwastraff, dŵr, stiwardiaeth tir a milltiroedd bwyd. Bydd hefyd yn cynnwys ffactorau moesegol a chymdeithasol megis arferion gwaith, cysylltiadau masnachol a datblygu cymunedol. Bydd ein prosiect yn edrych ar bob agwedd ar gadwyni’r sector organig yng Nghymru ac rydym yn annog busnesau yn y sector i fynd ati i gyfranogi er mwyn elwa’n uniongyrchol.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Natasha Fulford yn MGB PR ar 01792 460200.

Nodiadau i Olygyddion
1. Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL). Un o brosiectau Canolfan Organig Cymru yw BOBL ac fe’i hariennir o dan gynllun arbedion yn y gadwyn gyflenwi fel rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bwriad y cynllun yw cynorthwyo’r cynhyrchydd cynradd yng Nghymru a thyfu’r farchnad i gynnyrch organig Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Mae’r prosiect yn datblygu marchnadoedd hen a newydd i gynnyrch organig wrth hybu arloesedd ar bob lefel yn y gadwyn gyflenwi. Y nod cyffredinol yw cefnogi sector organig ffyniannus fel y gall y manteision a ddaw yn sgil buddsoddiad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y Cynllun Ffermio Organig i greu buddion ac yng Nghynllun Gweithredu Organig Cymru i gynorthwyo datblygu gwledig a chynhyrchu bwyd cynaliadwy, gael eu gwireddu’n gyflawn.

2. Ariennir Canolfan Organig Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig i gynhyrchwyr, busnesau bwyd, defnyddwyr ac eraill. Fe’i lleolir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac fe’i rheolir gan bartneriaeth yn cynnwys ADAS, Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm a Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.