Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Datganiad i’r Wasg

Cryfhau’r cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr garddwriaethol lleol a’r sector gwasanaethau bwyd

Cynhelir digwyddiad a fwriedir i gryfhau’r cysylltiadau rhwng cynhyrchwyr garddwriaethol a’r sector gwasanaethau bwyd yng Ngwesty Maes-y-neuadd, Talsarnau, ger Harlech ddydd Mercher 9 Tachwedd 2011. Wedi’i drefnu gan Ganolfan Organig Cymru ar ran prosiect arbedion yn y gadwyn gyflenwi Garddwriaeth Cymru, bydd y digwyddiad yn rhedeg o 11.00 tan 15.00 a bydd yn hyrwyddo defnyddio cynnyrch garddwriaeth ffres Cymreig ymysg cyflenwyr ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Bydd Chris Creed, ymgynghorydd garddwriaeth o ADAS, yn helpu i ddatrys y problemau sy’n wynebu garddwyr yn y ddwy ardd furiog a geir ym Maes-y-neuadd sydd, dros y blynyddoedd, wedi cyflenwi bwydlen y gwesty â llwythi o lysiau.
“Dyma’r ail ddigwyddiad sydd wedi dod â chyflenwyr cynnyrch garddwriaeth â’r rheini sydd yn y sector bwyd at ei gilydd,” medd Carolyn Wacher o Ganolfan Organig Cymru. “Cynhaliwyd y diwrnod cyntaf hynod lwyddiannus yn Griffin y Felin Fach y tu all i Aberhonddu.”
Mae manteision amlwg yn codi pan fydd pen-cogyddion yn cydweithio’n agos â thyfwyr wrth gael hyd i gynnyrch ffres a thymhorol ar gyfer eu bwydlenni. “Mae hyd yn oed materion fel cynhyrchu gormodedd yn gallu troi’n gyfle pan fydd y berthynas yn gweithio’n dda ar draws y gadwyn gyflenwi,” yn ôl Jane Morgan o Arddwriaeth Cymru. “Rydym yn sicr y bydd hyn yn ddiwrnod buddiol a gwerthfawr i gynrychiolwyr o’r ddau sector.".”
Gwahoddir pob cynhyrchydd a chyflenwr garddwriaethol i’r digwyddiad, ond cyfyngedig iawn yw nifer y lleoedd ac mae’n hollbwysig archebu ymlaen llaw trwy ffonio 01978 293967 neu cysylltwch â [email protected].

Diwedd:

Gwybodaeth bellach:
Carolyn Wacher, Canolfan Organig Cymru 01970 622248, e-bost [email protected]
Jane Morgan, Prifysgol Glyndŵr, 01978 293967,
E-bost [email protected].
Gweler: http://www.horticulturewales.co.uk/Events/LocalproduceforlocalprovidersMaesyNeuadd.aspx

Nodiadau i Olygyddion
1. Ariennir Canolfan Organig Cymru gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig i gynhyrchwyr, busnesau bwyd, defnyddwyr ac eraill. Fe’i lleolir ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n cael ei rhedeg gan bartneriaeth sy’n cynnwys ADAS, Y Ganolfan Ymchwil Organig Elm Farm a Phrifysgol Aberystwyth.
2. Mae Garddwriaeth Cymru wedi derbyn arian gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 trwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae Garddwriaeth Cymru’n darparu cymorth arbenigol sy’n canolbwyntio ar wella effeithlonrwydd busnesau sy’n ymwneud â chadwyni cyflenwi garddwriaethol bwytadwy ac amwynder yng Nghymru.

3. Bydd y prosiect yn hyrwyddo llyfryn a gynhyrchwyd trwy’r prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL): Pam fod amaeth-dwristiaeth gynaliadwy yn cynnig cyfleoedd marchnata i’r sector organig” sy’n amlygu sut y gall defnyddio bwyd organig ychwanegu at hunaniaeth werdd busnesau twristiaeth. Ariennir BOBL gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013 trwy Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.