![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
![]() Bwyd organig yn yr ysgolionDoes dim rheswm pam na all prydau ysgol gynnwys rhyw gymaint o fwyd organig. Wedi’i dyfu’n lleol ac yn ei dymor, mae ei bris yn gystadleuol ac mae’n dangos bod ysgol yn gwneud ymrwymiad i ffermio cynaliadwy. Gall bwyd organig hefyd fod yn nodwedd o siopau bwyd bychain mewn ysgolion neu brosiectau fel marchnadoedd ffermwyr mewn ysgolion neu siopau bwyd cydweithredol.![]() Prydau bwyd ysgolionMae Canolfan Organig Cymru yn cynnal prosiectau prydau bwyd ar hyd a lled Cymru fel rhan o Gwell Cysylltiadau Busnes Organig, prosiect newydd a ddechreuodd yn 2009. Nod y prosiectau yw dod â bwyd lleol (gan gynnwys bwyd organig) i’r gegin ysgol a chysylltu’r plant â ffermio a’r gadwyn fwyd.Darllenwch am ddau brosiect yn Abergele a Chaerdydd. Mae bwyd organig wedi’i gefnogi gan gynllun gweithredu prydau bwyd ysgol Llywodraeth Cynulliad Cymru, Blas am Oes. Siopau bwyd cydweithredolMae gan Ysgol Uwchradd Llanfair ym Muallt siop gydweithredol llysiau a ffrwythau organig er mis Mied 2009, yn gwerthu cynnyrch i ddisgyblion ac athrawon. Darllenwch fwy.Marchnadoedd ffermwyrTrefnwyd y marchnadoedd ffermwyr ysgolion cyntaf gan Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir y Canolbarth. Amcan cyffredinol marchnadoedd ffermwyr ysgolion yw i ‘ailgysylltu plant â bwyd a ffermio’ mewn lleoliad lleol. Os hoffech sefydlu marchnad yn eich ysgol chi, cysylltwch â on 0117 914 2422 neu lawrlwythwch ganllaw. Gweler hefyd adroddiad marchnad yn Ynys Môn. | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||