![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Staff of Organic Centre Wales Centre Manager[email protected] 01970 621679″ title=”Neil PearsonCentre [email protected] 621679″ border=”0″> Neil Pearson Ar ôl graddio mewn Gwyddor Amaethyddol o Brifysgol Leeds, bu Neil yn gweithio yn Adran Treialon Rhanbarthol Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol ar draws Cymru a Lloegr, gan gynnwys 10 mlynedd ar fferm Trawsgoed, fferm ADAS ar y pryd, sydd bellach yn rhan o Brifysgol Aberystwyth. Mae Neil yn gweithio i Ganolfan Organig Cymru ers 11 o flynyddoedd fel Rheolwr y Ganolfan, gan gydgysylltu a sicrhau cyflenwi contractau a ddyfernir i’r Ganolfan, er enghraifft: rheoli’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig (2001 -2011); Rhaglen Datblygu Busnes Organig Cyswllt Ffermio (2002-2011) a Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL 2009 i’r presennol). Yn cynrychioli’r Ganolfan ar bwyllgorau fel bo angen ac yn sicrhau cyflenwi o’r radd flaenaf a boddhad cleientiaid. Project Officer, BOBL project[email protected] 01970 621632″ title=”Tony Little Project Officer, BOBL [email protected] 621632″ border=”0″> Tony Little Ar ôl 11 o flynyddoedd yn y Ganolfan, wyneb cyfarwydd yw Tony i lawer o fusnesau bwyd a ffermio organig Cymru. Ar hyn o bryd, swyddog prosiect yw e i BOBL, gan olygu mai fe yw un o’r prif gysylltiadau rhwng y Ganolfan a’r diwydiant. Mewn bywydau blaenorol mae wedi darparu cefnogaeth dechnegol i dyfwyr a chynhyrchwyr dofednod organig yng Nghymru dryw Gyswllt Ffermio gan redeg y Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig am 10 mlynedd bron. Tyfu ffrwythau a llysiau yw ei gariad cyntaf, ond mae’n rhoi help llaw ar ambell fferm ddefaid rhag mynd yn rhydlyd! Cysylltwch â Tony os hoffech fwy o wybodaeth am ffyrdd o gymryd rhan ym mhrosiectau BOBL. schools[email protected] 01970 621530″ title=”Jane [email protected] 621530″ border=”0″> Jane Powell Athrawes gynwysedig yw Jane Powell sy’n arbenigo mewn addysg mewn ysgolion ac addysg gymunedol ac sy’n weithgar mewn Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang yng Nghymru. Mae hefyd ganddi gefndir mewn cyhoeddi ac mae’n golygu’r wefan a’r bwletin rheolaidd. Hi yw cydgysylltydd FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) yng Nghymru. Cysylltwch â Jane os hoffech fwy o wybodaeth am ein gwaith gydag Ysgolion. Administrator[email protected] 01970 622248″ title=”Pat [email protected] 622248″ border=”0″> Pat Elkins Mae Pat gyda’r Ganolfan ers y cychwyn un ac roedd hi yn y lansiad ar 20 Gorffennaf 2001, lle agorwyd y Ganolfan yn swyddogol gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru. Mae hyn yn golygu mai Pat yw’r aelod sydd wedi gwasanaethu hiraf yn nhîm Canolfan Organig Cymru! Mae Pat fel gweinyddwr y Ganolfan yn cymryd y pwysau oddi ar y tîm, fel y gallant fwrw ymlaen â’r gwaith maent yn ei wneud orau. Yn ei hamser hamdden mae hi’n mwynhau garddio, darllen a phaentio a phapuro, er bod ei hwyres ifanc bellach wedi symud i ben y rhestr. Project Officer, BOBL[email protected] 01970 622953″ title=”Dafydd OwenProject Officer, [email protected] 622953″ border=”0″> Dafydd Owen Ymunodd Dafydd Owen â thîm Canolfan Organig Cymru yn 2009, ar ôl treulio’r rhan fwyaf o’i yrfa ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU). Bu’n gweithio gydag NFU Cymru a phencadlys yr NFU yn Llundain, gan ddatblygu polisi ar ran cynhyrchwyr da byw cyn dychwelyd i Gymru, i weithio gyda chwmni cyfathrebu yn Aberystwyth. Cymerodd Dafydd drosodd fferm 100 erw’r teulu ym mis Ebrill 2010 a chynhyrchodd ei gig oen organig ardystiedig cyntaf eleni. Cysylltwch â Dafydd os ydych am gael gwybod mwy am dda byw organig neu arallgyfeirio ar y fferm. Communications Officer BOBL[email protected] 01970 823029″ title=”Jenny MillsCommunications Officer [email protected] 823029″ border=”0″> Jenny Mills • Ymunodd Jenny â Chanolfan Organig Cymru fel y swyddog cyfathrebu ym mis Hydref 2012, ar ôl blwyddyn ar wahanol brosiectau yn IBERS. Ar y prosiect BOBL mae Jenny yn gweithio â’r tîm i sicrhau hyrwyddo’r prosiect i gynhyrchwyr a defnyddwyr nwyddau organig yng Nghymru. Dim ond yn 2011 y symudodd Jenny i Gymru a chyn hynny treuliodd Jenny chwe blynedd gyda chwmni marchnata a chysylltiadau cyhoeddus yn Essex, gan ddarparu gwasanaethau cysylltiadau cyhoeddus i gleientiaid busnes i fusnes a busnes i ddefnyddwyr. Cysylltwch â Jenny os hoffech wybod sut i gymryd rhan yn y prosiect neu os oes gennych stori newyddion o’r byd organig yr hoffech ei dweud wrthym. Partners ADAS Senior Organic Consultant[email protected] 01974 282229″ title=”David FrostADAS Senior Organic [email protected] 282229″ border=”0″> David Frost • ADAS yw darparwr annibynnol mwyaf y DU o ran ymgynghori amgylcheddol, gwasanaethau datblygu gwledig a chyngor ar bolisi. Mae gan ymgynghorwyr ADAS gyfuniad unigryw o ddealltwriaeth a phrofiad ymarferol, wedi’i ategu gan wybodaeth gadarn sydd wedi’i seilio ar wyddoniaeth. O ganlyniad, mae gennym enw da haeddiannol o ran darparu atebion sydd o fudd i’r amgylchedd ac sy’n gwella perfformiad cleientiaid. Grassland Development Centre, IBERS[email protected] 01970 823026″ title=”Heather McCalmanGrassland Development Centre, [email protected] 823026″ border=”0″> Heather McCalman Nod Canolfan Datblygu Tir Glas IBERS yw darparu gwyddoniaeth a gwybodaeth i ffermwyr da byw i wella eu heffeithlonrwydd wrth gynhyrchu glaswelltiroedd ac i warchod a gwella cynefinoedd tir glas. Drwy amrywiaeth o weithgareddau mae tîm o weithwyr estyn yn annog ffermwyr i wella eu busnesau drwy ddefnyddio arferion priodol a thrwy gyflwyno a datblygu’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n seiliedig ar ymchwil IBERS. Senior Research Associate IBERS[email protected] 01970 622240″ title=”Pip NicholasSenior Research Associate [email protected] 622240″ border=”0″> Pip Nicholas Canolfan ymchwil ac addysgu arobryn o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Canolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol yw IBERS yn ogystal â bod yn ddewis y myfyrwyr ar gyfer astudio gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig. Maes ymchwil: astudiaeth o gadwyni cyflenwi bwyd organig a mewnbwn isel, gan gynnwys QLIF (www.qlif.org), prosiect ar y cyd rhwng nifer fawr o sefydliadau ymchwil ar draws yr UE. Research Associate IBERS[email protected] 01970 621603″ title=”Simon MoakesResearch Associate [email protected] 621603″ border=”0″> Simon Moakes Canolfan ymchwil ac addysgu arobryn o safon fyd-eang ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Canolfan ragoriaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol yw IBERS yn ogystal â bod yn ddewis y myfyrwyr ar gyfer astudio gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig. Head of Advisory Services, ORCEF[email protected]” title=”Roger HitchingsHead of Advisory Services, [email protected]” border=”0″> Roger Hitchings Elusen gofrestredig yw’r Ganolfan Ymchwil Organig, sy’n cael ei hadnabod yn ffurfiol fel Progressive Farming Trust Ltd. Ei busnes yw datblygu a chefnogi systemau cynaliadwy ar gyfer defnyddio tir, amaethyddol a bwyd, yn bennaf o fewn economïau lleol, sy’n adeiladu ar egwyddorion organig/agro-ecolegol i sicrhau iechyd a lles y pridd, planhigion, anifeiliaid, pobl a’n hamgylchedd. | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||