Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Ar gyfer busnesau  |  gwybodaeth y farchnad  |  Gwell Cysylltiadau Busnes Organig  |  Caffael cyhoeddus  |  Datblygu masnachol  |  Ystadegau

Amdano BOBL

logo BOBL
Cafodd Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) ei sefydlu i gefnogi busnesau organig ar draws Cymru i wella eu proffidioldeb, eu cynaliadwyedd a’r ffordd y maent yn ymgysylltu â’r gymuned. Mae BOBL wedi ymwared amrywiaeth o weithgareddau megis hyfforddiant, ymgysylltu â’r defnyddiwr a’r gymuned, ymweliadau addysgol a phrosiectau arbedion yn y gadwyn gyflenwi.

Cefndir: dechreuodd BOBL yn 2009 a derbyniodd gyllid o £2 filiwn gan Gynllun Effeithlonrwydd y Gadwyn Gyflenwi, yn rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru ar gyfer 2007-2013 a chafodd ei estynu am ddwy flynedd ychwanegol. Fe orffenodd y Prosiect ar 31 Awst 2015. Fe weithiodd BOBL mewn partneriaeth â nifer o arbenigwyr allweddol yn y diwydiant. Roedd ‘rhain yn cynnwys busnesau organig, partneriaid Canolfan Organig Cymru – ADAS, y Ganolfan Ymchwil Organig ac IBERS, Prifysgol Aberystwyth – ac ar ben hynny, mae BOBL wedi cydweithredu ag ymgynghoriaethau arbenigol er mwyn cefnogi datblygiad y sector organig yng Nghymru.

Am grynodebau a mwy o wybodaeth ar brif gweithrediadau BOBL a sut gallent helpu’ch busnes organig cliciwch ar y lincs isod:

Cysylltu â’ch cymuned
Cael hyd i farchnadoedd newydd
Gwella gwerthiant organig
Cynyddu’ch cynaliadwyedd
Ystyried cynhyrchion organig newydd

Fe ddaeth y prosiect BOBL, ac felly’r cyllid i gyflogi staff penodol i’r maes yng Nghanolfan Organig Cymru, i ben 31 Awst 2015. Mae’r Ganolfan yn parhau, er yn fwy fel ‘rhith-ganolfan’, gyda chefnogaeth ei phartneriaid y Ganolfan Ymchwil Organig, IBERS ac ADAS gyda chyllid yn dal i ddod oddi wrth Lywodraeth Cymru. Am fwy o wybodaeth ar gyflawniadau’r Prosiect BOBL ewch i’r wefan www.boblproject.org.uk neu chwiliwch am adroddiadau ad dudalen ‘Cyhoeddiadau’ ‘r wefan yma. Bydd y wefan a’r llinell gymorth (01970 622100) yn dal i weithredu ac hefyd yr efwletin misol. Cliciwch fan yma i danysgrifio.


In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.