Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

saxon organic

Y farchnad grawn yng Nghymru


Y diweddaraf o’r farchnad gan Simon Tubbs Saxon Agriculture, Ebrill 2013


Mae marchnadoedd organig wedi ymdawelu ar ôl dechreuad cryf iawn i’r flwyddyn, gan fod tywydd gwanwynol fel pe bai wedi cyrraedd ac felly mae’r galw am borthiant yn gostwng. Fel arfer yn y farchnadfa organig ar yr adeg yma o’r flwyddyn, rydym hefyd yn gweld cyflenwadau ychwanegol o rawn ar gael, gyda chyfuniad o stociau’r rai sy’n dal cyflenwadau’n hir a stociau dros ben sy’n cael eu dal yn ôl ar ffermydd da byw’n cael eu cynnig i’r farchnad. Ymddengys fod lefelau da wrth gefn gan ddefnyddwyr ar hyn o bryd, er, yn anochel, bydd yna gyfleoedd, yn enwedig gan fod y cynhaeaf yn debygol o fod yn hwyr eleni. Unwaith eto felly, os oes gennych ddeunydd i’w werthu, awgrymwn yn gryf eich bod yn siarad â’ch darpar brynwr.
Ar hyn o bryd rydym yn prisio gwenith a haidd yn £280 i’w casglu ym mis Mai/Mehefin, rhygwenith yn £270, ceirch hefyd yn £270, gyda ffa yn £328.

Mae marchnad fanwerthu organig y DU wedi gwella drwy fis Chwefror yn dilyn helyntion y cig ceffyl a welwyd yn y sector bwyd prosesedig, ac o bosibl, bydd yn gweld peth budd o’r newyddion yn ddiweddar bod rhai archfarchnadoedd yn llacio eu gwaharddiad ar fwyd GM ym mhorthiant dofednod. Yn sicr, mae angen hwb ar y sector dofednod organig sy’n defnyddio grawn o’r DU yn helaeth, yn sgil sawl blwyddyn anodd iawn. Mae gwir angen i’r sector organig yn ei grynswth hyrwyddo’r ffaith mai’r unig ffordd mewn gwirionedd o osgoi GM yw prynu’n organig.
Mae’r marchnadoedd organig ar dir mawr Ewrop ac America’n dal i ddangos twf cadarnhaol – siomedig iawn yw nodi mai’r DU yw’r ddolen wannaf o hyd.

Mae prisiau cnydau newydd wedi cychwyn ar lefelau da, ond mae darpar werthwyr yn gyndyn o werthu ymlaen yn sgil materion yn ymwneud â’r pwysau a’r ansawdd y llynedd. Mae tywydd cynhesach yng nghanol Ebrill wedi helpu cnydau i ddatblygu ac mae drilio’r gwanwyn ar gerdded, gyda sôn am gynnydd da wrth hau mewn gwelyau had cynhesach.
Rydym yn prisio gwenith mis Medi yn £268, gyda haidd porthiant yn £258.

Siaradwch â ni’n uniongyrchol ar 01284 764915 am brisiau sy’n berthnasol i’ch sampl a’ch lleoliad.



www.saxonagriculture.co.uk/grain.html

View archive
In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.