![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Y cyd-destun ehangachYdy ffermio organig yn llesol i’r amgylchedd? • Mae astudiaethau wedi dangos, ar gyfartaledd, fod ffermydd organig sefydledig yn cynnal niferoedd uwch ac amrywiaeth fwy toreithiog o adar, planhigion gwyllt, pryfed a bywyd gwyllt arall, na ffermydd anorganig.• Mae’r Safonau yn annog ffermwyr organig i gynnal gwrychoedd, coed a chyrion caeau er mwyn diogelu bywyd gwyllt. • Mae defnydd ynni, ar arbennig ynni sy’n gysylltiedig â gwneud gwrtaith a phlaleiddiaid, yn tueddu i fod yn is o lawer ar fermydd organig • Ar gyfer crynodob o fanteision amgylcheddol ffermio organig gan DEFRA, cliciwch yma Beth yw dyfodol ffermio organig yng Nghymru?• Datblygodd Llywodraeth Cynulliad Cymru gynllun gweithredu organig ym 1999, o flaen Lloegr a’r Alban, ac mae’n dal i gefnogi ffermwyr organig. • Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn annog darparu mwy o fwyd wedi’i gynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys bwyd organig, mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus eraill. • Mae cwmniau bwyd mawr yn buddsoddi’n gynyddol mewn cynnyrch organig newydd, yn aml gyda chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru. • Mae Canolfan Organig Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu ffermio organig.. Sut alla i gael gwybod mwy?• Ceisiwch ragor o wybodaeth am fwyd a ffermio organig gan un o’r cyrff niferus sydd yn ei gefnogi. Ceir rhai ar y rhestr isod. • Gofynnwch am fwyd organig os na chewch chi ddod o hyd iddo mewn siop neu dŷ bwyta. • Ymwelwch â marchnadoedd y fermwyr a phrynwch oddi wrth gynhyrchwyr organig yn uniongyrchol. • Tyfwch eich bwyd organig eich hunain a dechreuwch domen gompost. Dyma’r fordd orau i sicrhau bod eich cynnyrch yn rhydd o blaleiddiaid. • Ewch ati i weld a oes fferm organig gerllaw sy’n croesawu ymweliadiau gan y cyhoedd: gweler rhestr y Soil Association yma. • Ewch ar eich gwyliau yng Nghymru, yn organig: gweler ein gwefan newydd i dwristiaid. • Ffoniwch for am fwy o wybodaeth 01970 622100. Mwy o wybodaethGarden Organic gwefan Why Organic website Marchnadoedd Ffermwyr yng Nghymru Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru Canolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||