Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Y Farchnad Organig – Cig a Da Byw

Cynhyrchwyr y Graig: Adroddiad Nigel Elgar, Ebrill 2010
Mae hesbyniaid organig yn brin ofnadwy ac mae’r prinder yn debygol o barhau nes bydd nifer go lew o ŵyn newydd y tymor ar gael. Nid yw prisiau eidion o dan a thros ddeg mis ar hugain yn newid ar hyn o bryd ond mae gwartheg organig dros dri deg mis yn dod yn fwy anodd cael hyd iddynt. Mae galw mawr am wartheg stôr ac mae’r prisiau’n adlewyrchu hyn.
[email protected]

Cynnydd cyffredinol ym mhris cig oen
Mae llai o ddefaid yn cael eu magu yn y DU o’i gymharu â degawd yn ôl. Mae’r cyflenwad ar i lawr a’r prisiau ar i fyny. Mae proseswyr cig yn pryderu y bydd codiad yn y prisiau’n golygu nad yw cig oen mor fforddiadwy. Yn ôl y Meat Trade Journal pris briwgig oen confensiynol bellach yw £9.45 y kilo, 21% yn uwch na’r un wythnos y llynedd pryd yr oedd yn £7.83. Mae tshiops cig oen wedi gweld y pris yn llamu 11%, gyda tshiops yn cael eu gwerthu am £11.64 y kilo. Mae gwendid y bunt wedi annog ffermwyr i allforio i Ffrainc a’r Dwyrain Canol. Mae un ym mhob tri o ŵyn a fagwyd hyd yn hyn eleni wedi cael eu hallforio
http://www.telegraph.co.uk

Arwerthiannau Da Byw Organig
Ni fydd arwerthiant organig nesaf Livestock Sales y Trallwng yn cael ei gynnal tan ddydd Llun 3 Mai 2010. Arwerthiant i wartheg a defaid organig neu sy’n cael eu troi fydd hwn, galwch 01938 553438 am fanylion.
Bydd Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig rheolaidd ar ddydd Gwener cyntaf y mis. Ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 am fanylion neu e-bostiwch [email protected]. Bydd McCartneys yn cynnal arwerthiant ar y cyd ar gyfer da byw organig a chonfensiynol 30 Ebrill a 28 Mai ym marchnad Aberhonddu. Cynhelir arwerthiannau organig rheolaidd ar ddydd Gwener olaf y mis. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion.

Gwybodaeth am brisiau organig
Ceir mwy o wybodaeth am brisiau da byw ar http://www.soilassociation.org/web
ac http://www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml

Stori gynt: Y Farchnad Organig – Grawn
Stori nesaf: Adroddiad Suzanne Rees, Organic Fresh Food Company

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.