![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion…Adroddiad Suzanne Rees, Organic Fresh Food CompanyMae’r tywydd godidog wedi codi calon pawb ac mae tyfwyr wedi bod allan yn trin y tir a phlannu o dan amodau sydd bron â bod yn berffaith. Fodd bynnag, mae nosweithiau oer yn dal i achosi problemau gyda phethau’n egino’n araf a thatws cynnar Sir Benfro dair wythnos ar ei hôl hi ar hyn o bryd. Golygai’r amodau gwlyb iawn yn gynnar fod plannu’n anodd ac erbyn hyn mae’r nosweithiau oer yn arafu’r twf. Daeth cnydau twneli dan do i gyd â’i gilydd, gan greu gwledd am ychydig ar ôl y newyn ond gan fod y tyfwyr bellach yn tynnu’r cnydau cynnar allan yn barod i blannu tomatos a chiwcymbrau, bydd y cyflenwad a’r galw’n unioni. Mae letys hyfryd o wledydd Prydain bellach yn cyrraedd marchnad weddol gref, ond collodd llawer iawn o dyfwyr eu blodfresych blagurol porffor ond mae’r rheini sydd â chnwd bychan yn gwerthu i farchnad gref iawn. Bydd y tymor yn fyr iawn gyda chnydau cynnar a hwyr eto’n dod â’i gilydd. Mae moron y tymor diwethaf bellach yn dangos arwyddion eu bod yn torri ar ôl yr haf gwlyb a dw i’n rhagweld bwlch newynog a hir ar y gorwel! Mwy o newyddion | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||