Cadair newydd Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn Aberystwyth
Penodwyd yr Athro Gareth Edwards-Jones i Gadair Waitrose Amaethyddiaeth Gynaliadwy yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth. Mae’r penodiad yn rhan o drefniant arloesol ar y cyd â Phrifysgol Bangor lle bydd yr Athro Edwards-Jones yn cyfuno’i swydd newydd â’i safle fel Athro Amaethyddiaeth ac Astudiaethau Defnyddio Tir ym Mangor.
Dywedodd: “Un o’r meysydd allweddol fydd edrych ar sut y mae angen i ffermwyr addasu a newid i gwrdd â gofynion defnyddwyr. Rydym eisiau pontio’r bwlch gwybodaeth rhwng ffermwyr a manwerthwyr trwy ganfod sut allant gydweithio â’i gilydd fwyaf effeithiol.”
Bydd ymchwil i gynaliadwyedd hefyd yn rhan bwysig o’r swyddogaeth. Bydd yr Athro Edwards-Jones yn archwilio sut y bydd hyn yn effeithio ar yr amgylchedd ond hefyd yn nhermau cymuned wledig iach.
“Mae’n hanfodol nad yw ein hymchwil yn edrych ar bynciau ar wahân. Mae amddiffyn yr amgylchedd yn allweddol i ddyfodol amaethyddiaeth y DU ac ar yr un pryd gwneud yn sîwr bod ffermwyr yn dal i redeg busnesau proffidiol.”
Dywedodd Sue Fowler: "Mae Canolfan Organig Cymru yn falch iawn bod y gadair hon wedi dod i IBERS ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ef. Nid yw ardystio organig yn iawn i bawb, ond gall elfennau o’r dull organig gyfrannu at amaethyddiaeth organig.”