Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Bwydydd anifeiliaid wedi eu mewnforio

Mae Cyfeillion y Ddaear a’r Soil Association yn ymgyrchu am fwy o gynhyrchu cig a llaeth cynaliadwy yn y DU.

Mae ymgyrch cadwyn fwyd Cyfeillion y Ddaear yn galw am lai o ddibyniaeth ar borthiant sy’n cael ei fewnforio ac sy’n aml yn cael cryn effaith ar yr amgylchedd. Mae’r mater bellach yn nwylo’r Senedd. Ar 12 Tachwedd, bydd aelodau seneddol yn bwrw eu pleidlais ar Fesur Da Byw Cynaliadwy a fydd yn ymrwymo’r Llywodraeth i gymryd camau i leihau’r difrod a berir i fforestydd a bywyd gwyllt gan fwydydd anifeiliaid. Gweler www.jointhemoovement.com.

Yn y cyfamser, y mae adroddiad y Soil Association, Feeding the animals that feed us, yn gofyn sut y gallwn leihau’r ddibyniaeth ar borthiant a fewnforir, a symud tuag at systemau mwy cynaliadwy sydd wedi eu seilio ar bori a bwydydd anifeiliaid a dyfir gartref. Mae’n rhoi ystyriaeth i bynciau megis: lleihau’r ddibyniaeth ar ddietau sy’n seiliedig ar rawn a phrotein, ac annog defnydd o gnydau Prydeinig eraill megis ffa’r blaidd a ffacbys; lleihau’r defnydd o soia mewn bwyd anifeiliaid organig a sicrhau bod soia organig yn parhau i gael ei gynhyrchu mewn modd cynaliadwy; mwyhau’r carbon a gedwir ym mhriddoedd tir glas; ailgylchu bwyd sy’n wastraff; a chynyddu’r gyfran o rawn a chodlysiau a dyfir yn y DU sy’n cael eu defnyddio gan felinau bwyd anifeiliaid.
Trefnodd y Soil Association gyfarfodydd i drafod hyn gan wahodd ffermwyr, cynhyrchwyr porthiant anifeiliaid, y cyhoedd ac eraill i roi eu barn am yr adroddiad a’r ffordd ymlaen wedi hynny. Ymhlith yr awgrymiadau yr oedd: hyrwyddo bridiau nad sydd angen dim neu nemor ddim porthiant a brynir; cynyddu’r porthiant o’r porfeldir ar gyfer moch a dofednod; annog cynhyrchiad cnydau protein a dyfir yn y DU; a helpu ffermwyr i rannu’r arferion gorau.

Llawrlwythwch yr adroddiad

Stori gynt: BOBL yng Ngwledd Conwy
Stori nesaf: Bwyd cynaliadwy o Gymru

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.