![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion…Bygythiad i brydau ysgolGall toriadau yn y sector cyhoeddus olygu diwedd prydau ysgol iach yn y DU. Mewn erthygl yn y Western Mail, dywed yr Athro Kevin Morgan o Brifysgol Caerdydd fod bwyd ysgol yn brawf o ymrwymiad cymdeithas i gyfiawnder cymdeithasol, iechyd cyhoeddus a datblygiad cynaliadwy. Yn y blynyddoedd diweddar, y mae cryn bwys wedi ei roi ar wella safonau maeth ac ar gaffael cynaliadwy – a hynny dan arweiniad cynlluniau’r llywodraeth megis Blas am Oes yng Nghymru, a phrosiectau megis y bartneriaeth English Food for Life. Mae’r datblygiadau hyn yn awr dan fygythiad oherwydd toriadau mewn gwariant cyhoeddus, a gallai hynny dorri’r gwasanaeth prydau ysgol yn ôl i’w isafswm statudol – sef darparwr prydau ysgol rhad ac am ddim i deuluoedd ar incymau isel. Mwy o newyddion | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||