Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Ymgyrch newydd yn lansio i dynnu sylw at fuddion nwyddau organig

Mae’r diwydiant organig yn lansio ymgyrch 3-blynedd uchel-ei-phroffil sy’n anelu at hybu twf yng ngwerthiant bwyd organig yn y DU drwy gynyddu galw cwsmeriaid amdano. Yn derbyn arian cyfatebol gan yr UE, nod yr ymgyrch £2m ‘Pam Dw i’n Dwlu ar Organig’ yw gwahodd cwsmeriaid i ddarganfod beth mae organig yn ei olygu, drwy herio eu canfyddiadau a darganfod eu rheswm eu hunain dros ddwlu arno.

Gan lansio ym mis Ionawr 2011 o dan y faner ‘Mae llwyth o resymau dros ddwlu ar organig – darganfyddwch un eich hunan’, mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebu yn y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol, gan anelu at ddemocrateiddio’r byd organig drwy ddefnyddio pobl gyffredin i siarad am eu rhesymau dros brynu a dwlu ar organig.

Yn ôl Cadeirydd y Bwrdd Masnach Organig, Huw Bowles, “Rydyn ni’n gwybod bod pobl am fwyta bwyd naturiol sy’n blasu’n wych a dyna’n union beth yw bwyd organig. Mae ymchwil wedi dangos, wrth brynu bwyd, fod materion fel naturioldeb a defnydd cyfyngedig o blaladdwyr yn bwysig i gwsmeriaid ; fodd bynnag, dydyn nhw ddim bob amser yn sylweddoli mai dyna’n union beth fyddent yn ei gael pe baen nhw’n prynu bwyd organig. Mae’r term organig yn aml yn cael ei gamddeall a thrwy’r ymgyrch yma, rydyn ni am helpu defnyddwyr i ddarganfod beth yn union mae’n ei olygu a pham mae’n werth ei brynu, gyda’r nod yn y pen draw o hybu gwerthiant”.

Bydd hysbysebion yn y wasg yn ymddangos mewn nifer o gylchgronau cenedlaethol dros gyfnod o 9 mis (ym mhob un o 3 blynedd y rhaglen.) Bydd testun creadigol yr hysbyseb yn herio canfyddiadau drwy ddangos unigolion cyffredin na fyddent fel arfer yn cael eu cysylltu â phrynu nwyddau organig, pob un yn rhoi eu rheswm dros ddwlu ar organig, gan amlygu buddion bwyd organig.

Bydd y gweithgarwch cysylltiadau cyhoeddus yn helpu i godi ymwybyddiaeth a chanolbwyntio ar straeon newyddion tymhorol, astudiaethau achos bywyd go iawn, cystadlaethau, cefnogaeth gan bobl enwog a syniadau ar gyfer ryseitiau organig blasus.

Mae gwefan newydd (www.whyiloveorganic.co.uk) hefyd wedi’i chreu a fydd yn arddangos buddion bwyd organig, yn cynnwys y newyddion diweddaraf ac awgrymiadau ar gyfer ryseitiau. Bydd y wefan hefyd yn cynnig fforwm i ddefnyddwyr fynegi a rhannu eu barn a’u rhesymau dros ddwlu ar organig, a bydd yn ategu’r tudalennau ar Facebook a Twitter sydd hefyd yn cael eu creu i gefnogi’r ymgyrch.

Yn ôl Huw Bowles, “Y peth braf am yr ymgyrch yw bod ‘na lwyth o resymau dros ddwlu ar organig ac mae hon yn neges gref a syml iawn i bobl ei deall ac mae’n eu gwahodd i ddarganfod mwy.”

Stori gynt: Bygythiad i brydau ysgol
Stori nesaf: Naws Cymreig ar ymgyrch newydd dros nwyddau organig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.