Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Naws Cymreig ar ymgyrch newydd dros nwyddau organig

Bydd Canolfan Organig Cymru (OCW) yn cefnogi ymgyrch uchel-ei-phroffil sy’n hyrwyddo bwyd organig yn y DU.

Nod yr ymgyrch £2m, a’i hariannur gan fusnesau organig ag arian cyfatebol gan yr UE yw gwahodd cwsmeriaid i ddarganfod beth mae organig yn ei olygu, drwy herio eu canfyddiadau a darganfod eu rheswm eu hunain dros ddwlu arno. Yng Nghymru bydd OCW yn sicrhau sylw dwyieithog, a defnyddio’r negeseuon i gefnogi gwaith hyrwyddo cyffredinol o dan y prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organic (BOBL)

Gan lansio ym mis Ionawr 2011 o dan y faner ‘Mae llwyth o resymau dros ddwlu ar organig – darganfyddwch un eich hunan’, mae’r ymgyrch yn cynnwys hysbysebu yn y wasg, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata digidol, gan anelu at ddemocrateiddio’r byd organig drwy ddefnyddio pobl gyffredin i siarad am eu rhesymau dros brynu a dwlu ar organig.

Dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr OCW: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl am fwyta bwyd naturiol sy’n blasu’n wych a dyna’n union beth mae pobl yn disgwyl oddi wrth fwyd organig. Bydd yr ymgyrch yma yn codi proffil bwyd organig a rhoi cyfle i gwsmeriaid i ddarganfod beth yn union mae’n ei olygu”

Bydd hysbysebion yn y wasg yn ymddangos mewn nifer o gylchgronau cenedlaethol dros gyfnod o 9 mis ym mhob un o 3 blynedd y rhaglen. Yn gysylltiedig a hwn bydd gwaith PR yn canolbwyntio ar storiau tymhorol, astudiaethau achos, cystadlaethau a ryseitiau blasus organig.

Mae gwefan newydd (www.whyiloveorganic.co.uk) hefyd wedi’i chreu a fydd yn arddangos buddion bwyd organig, yn cynnwys y newyddion diweddaraf ac awgrymiadau ar gyfer ryseitiau. Bydd y wefan hefyd yn cynnig fforwm i ddefnyddwyr fynegi a rhannu eu barn a’u rhesymau dros ddwlu ar organig, a bydd yn ategu’r tudalennau ar Facebook a Twitter sydd hefyd yn cael eu creu i gefnogi’r ymgyrch.

Stori gynt: Ymgyrch newydd yn lansio i dynnu sylw at fuddion nwyddau organig
Stori nesaf: A oes diddordeb gennych mewn derbyn arolwg adar yn rhad ac am ddim?

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.