Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Hyfforddiant ar gyfer ymweliadau gan ysgolion a ffermio gofal

A ydych yn ffermwr sydd am gael ysgolion i ddod i weld eich fferm? Neu a ydych yn gweithio i gwmni sy’n trefnu ymweliadau cefn gwlad ar gyfer ysgolion? Mae cwrs CEVAS (The Countryside Educational Visits Accreditation Scheme) yn ymdrin ag iechyd a diogelwch, cysylltiadau â chwricwlwm yr ysgol, a sut i gyfathrebu gyda phobl ifanc, gan arwain at gymhwyster cydnabyddedig. Mae dros 1000 o bobl yn Lloegr a 60 yng Nghymru eisoes wedi eu hachredu. Gyda chefnogaeth gynyddol o du’r Cynulliad o blaid yr ‘ystafell ddosbarthu y tu allan’ ac addysg bwyd, dyma gyfle gwerthfawr i feithrin sgiliau cyfathrebu â’r cyhoedd.

Mae FACE Cymru yn trefnu cwrs CEVAS ar brosiect ‘Down to Earth’, Penrhyn Gwyr, ar 10 a 17 Mawrth 2010. Y gost yw £95 + TAW, ond os ydych yn ffermwr, efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol (80%) gan Farming Connect – ffoniwch 08456 000813 i gofrestru ac i wneud cais am gymorth cyn cadw lle. Mae’n bosibl hefyd fod cymorth ariannol ar gael i ddysgwyr ar incwm isel o Gronfa Wrth Gefn Coleg Cymunedol YMCA Cymru.

Cynhelir y cwrs yn Saesneg, ond darperir deunydd y cwrs yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac y mae croeso i chi gwblhau eich portffolio yn Gymraeg gyda chymorth tiwtor dwyieithog.

Ar ôl y cwrs hwn, bydd trydydd diwrnod ar gael ar 6 Ebrill yn Fferm yr Ymddiriedolaeth Amelia, y Barri, sef Cyflwyniad i Ffermio Gofal.

Am fwy o fanylion ewch i’t tudalen digwyddiadau neu e-bost .

Stori gynt: A oes diddordeb gennych mewn derbyn arolwg adar yn rhad ac am ddim?
Stori nesaf: Cefnogaeth ar gyfer datblygiad cyanliadwy busnesau organig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.