Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Arian i’w ennill o’ch syniadau gwyrdd syml

Gwahoddir ceisiadau ar gyfer gwobr gan ffermwyr sydd wedi gwneud newidiadau ar raddfa fach i’w ffermydd (er enghraifft, casglu dwr glaw neu gompostio gwastraff gwyrdd) er budd yr amgylchedd lleol ac i wella elw.

Bydd enillydd y Wobr Syniadau Syml yn derbyn gwerth £1,000 o gyngor proffesiynol gan ymgynghorydd wedi’i gymeradwyo gan Cyswllt Ffermio, ynghyd â £1,250 gan Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru i wneud gwelliannau amgylcheddol pellach ar y fferm. Bydd yr ail yn derbyn grant o £750 tuag at wneud gwaith ar ei fferm.

Mae’r wobr yn agored i bob ffermwr heb unrhyw gyfyngiadau ar faint y fferm a/neu fath o ffermio. Yn syml, yr hyn sydd angen i’r ymgeiswyr ei wneud yw disgrifio pa newidiadau syml ac arloesol a wnaethant ar eu fferm a arweiniodd at welliannau nid yn unig i gnydau a da byw, ond i’r amgylchedd hefyd.
Rhaid i’r ceisiadau ddod i law erbyn dydd Gwener, 24 Mehefin. Am fanylion llawn a ffurflen gais, cysylltwch â neu ffoniwch Joanne Marley ar 02920 466123.

Stori gynt: Tir Organig – rhifyn yr haf 2011 allan
Stori nesaf: Comisiynydd yr UE yn cymeradwyo ffermio organig

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.