Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Comisiynydd yr UE yn cymeradwyo ffermio organig

Wrth drafod diwygiadau i’r PAC yn y dyfodol, mae Dacian Ciolos, Comisiynydd yr Undeb Ewropeaidd dros Ffermydd, wedi datgan yn gyhoeddus ei fod yn cefnogi ffermio organig. Mewn cyflwyniad yn y 5ed Cyngres Organig Ewropeaidd yn Hwngari yn gynharach y mis hwn, dywedodd y byddai ffermwyr yn gymwys i dderbyn cymorth yn awtomatig o dan elfen ‘hyrwyddo materion gwyrdd’ y golofn gyntaf, ond ei fod yn ystyried ‘atgyfnerthu’ darpariaethau ar gyfer ffermio organig drwy ail golofn sy’n cefnogi cynlluniau amaeth-amgylchedd megis y cynllun Glastir. Adleisiwyd ei safbwyntiau gan Weinidog Ffermio Gwlad Pwyl, Marek Sawicki, a fydd yn cychwyn yn ei swydd fel Llywydd UE’r Cyngor y mis nesaf, ac sydd ar fin cael profiad uniongyrchol o systemau ffermio organig yn sgil penderfyniad ei fab i drawsnewid y fferm deuluol.
Er nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud hyd yma (nid yw addewid y Comisiynydd yn golygu y bydd yr aelod wladwriaethau, na Senedd Ewrop, yn cytuno), mae’n gydnabyddiaeth amlwg o gyfraniad amaethyddiaeth organig i brosesau cynhyrchu bwyd cynaliadwy, ac yn cadarnhau ei swyddogaeth yng nghyd-destun diwygio’r PAC yn y dyfodol. Croesawodd Christopher Stopes, Llywydd Grŵp IFOAM yr UE, y cyfle i gael trafodaeth ar systemau bwyd cynaliadwy ar y lefel uchaf. Dywedodd bod y diwygiadau arfaethedig o’r PAC yn “brawf sylfaenol i wneuthurwyr polisïau i weld i ba raddau maent yn barod i ymrwymo i gymryd camau arwyddocaol tuag at bolisi ffermio sy’n ateb heriau’r amgylchedd, bioamrywiaeth a phrinder adnoddau”. darllen mwy   

Stori gynt: Arian i’w ennill o’ch syniadau gwyrdd syml
Stori nesaf: Lleihau costau ail-hau gwyndynnydd gwair

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.