Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Lleihau costau ail-hau gwyndynnydd gwair

Bydd digwyddiad a gynhelir ar Fferm Plas Uchaf, Llanarthne, Caerfyrddin SA32 8HS ar ddydd Mercher, 13 Gorffennaf am 1.30 y prynhawn yn gyfle i ddarganfod rhagor am adnewyddu gwyndynnydd gwair heb orfod aredig. Trefnir y digwyddiad gan Ganolfan Organig Cymru fel rhan o Raglen Datblygu Organig Farming Connect, ac y mae’n addas ar gyfer pawb sy’n ffermio.

Dyma ddywed Phil Jones o Ganolfan Organig Cymru, sy’n trefnu’r digwyddiad: “Gyda chost tanwydd ar gynnydd, mae ffermwyr yn awyddus i ddarganfod ffyrdd mwy economaidd o hau hadau gwair newydd. Mae Ian Jones o Blas Uchaf wedi bod yn arbrofi gyda dwy dechneg wahanol o ail-hau, sef hau uniongyrchol mewn rhychau a ‘scratch sowing’, a byddant yn cael eu harddangos ar y diwrnod.”

Bydd Sue Buckingham o Ganolfan Datblygu Tir Glas, IBERS, yn arwain y digwyddiad gyda thrafodaeth ar fanteision ail-hau heb aredig, a sut i leihau’r risg y bydd yr hadau newydd yn methu.

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond dylech gofrestru gyda ar 01970 622248 i gadw lle a chael manylion am y trefniadau.

Stori gynt: Comisiynydd yr UE yn cymeradwyo ffermio organig
Stori nesaf: Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.