Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Gwneud bwyd dofednod organig yn fwy cynaliadwy

Mae Canolfan Organig Cymru wedi comisiynu Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm i asesu’r cyfraniad y gall blodau haul a hadau rêp a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ei wneud i ddognau dofednod organig.

Ar hyn o bryd mae llawer o systemau cynhyrchu dofednod organig yn dibynnu’n drwm ar brotein wedi’i fewnforio, ar ffurf soia yn bennaf. Nid yw hyn yn gweddu’n dda iawn ag egwyddorion organig sy’n gosod pwyslais mawr ar systemau caeedig a defnyddio porthiant ar y fferm. Ar ben hyn mae soia organig, yn ogystal â soia di-GM, yn dod yn fwyfwy anodd i’w gael, ac o ganlyniad mae’r dod yn fwy drud.

Mae Canolfan Organig Cymru wedi bod yn rhoi sylw i’r mater hwn ers tro, ac mae’r heriau a’r cyfleoedd wedi’u crynhoi yn y ffilm hwn.

Mae astudiaeth Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm yn trafod nifer o agweddau gan gynnwys: cyfansoddiad maethol sylfaenol blodau haul a hadau rêp; y gyfran o ofynion dietegol aderyn y gellir eu diwallu gan y cnydau hyn; eu cyfyngiadau megis ffactorau gwrth-faethol a llygriadau; arwynebedd y cnydau hyn sy’n cael eu tyfu’n organig yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, a’r potensial i’w cynyddu; ac agronomeg sylfaenol dan amodau organig.

Dywedodd Tony Little, sy’n cydlynu’r gwaith hwn ar ran Canolfan Organig Cymru ‘Mae’r gwaith hwn yn amserol iawn. Bydd yr heriau sy’n gysylltiedig â bwydo dofednod organig yn cynyddu wrth i’r gyfran o gynhwysion anorganig a ganiateir leihau yn 2012. Rydym yn gobeithio dangos bod modd bwydo adar mewn modd mwy cynaliadwy, ond gan gynnig arbedion i gynhyrchwyr dofednod a chyfleoedd i dyfwyr cnydau âr ar yr un pryd.’

Am wybodaeth bellach cysylltwch â 01970 621632

Stori gynt: Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig 2012, 18 Ionawr 2012
Stori nesaf: Brechu moch daear – rhan o’r ateb i dwbercwlosis?

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.