Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Brechu moch daear – rhan o’r ateb i dwbercwlosis?

Mae Llywodraeth Cymru. sydd wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth ddelio â her TB buchol, ar hyn o bryd yn terfynu ei hadolygiad o’r wyddoniaeth ac yn paratoi adroddiad ar gyfer dechrau’r flwyddyn nesaf. Mae’n debygol y bydd yn argymell cyfres o fesurau cydgysylltiedig a fydd, gyda’i gilydd, yn arafu ymlediad yr afiechyd.

Mae brechu moch daear yn ddull sydd wedi cael ei ystyried yn Lloegr yn fwy nag yng Nghymru. Mae’n gweithio trwy leihau lefelau ac arafu ymlediad yr afiechyd mewn grwpiau cymdeithasol o foch daear sy’n achosi gostyngiad cyfatebol yng nghyfradd yr achosion lle y trosglwyddir yr afiechyd i wartheg. Cyllidwyd prosiect gan Defra i brofi effeithiolrwydd y dull ac, er i doriadau yn y gyllideb olygu bod niferoedd y safleoedd treialu wedi’u lleihau’n ddirfawr, mae’r data sydd ar gael yn awgrymu bod yr imiwnedd mewn cenfeiniau moch daear sydd wedi eu trin wedi gwella’n aruthrol dros y 5 mlynedd dan sylw.
Yn 2010, cymeradwywyd brechlyn rhag TB buchol i foch daear a rhoddwyd awdurdod i’w farchnata. Sefydlwyd cwmni gan Andrew Crace-Calvert o’r enw EcoCon i gynnig cyflwyno rhaglen brechu moch daear fasnachol. Yn yr un modd â phob mesur i reoli TB buchol, caiff y llwyddiant mwyaf os bydd yn cael ei gyfuno â dulliau bioddiogelwch a hwsmonaeth eraill, megis profi gwartheg cyn eu symud a mesurau i gadw moch daear a gwartheg ar wahân. Mae hefyd yn fwy tebygol o lwyddo os bydd ffermwyr yn cydweithio, yn enwedig o fewn ffiniau naturiol ac artiffisial megis priffyrdd neu gytrefi. Mae hyn yn hybu’r effeithiolrwydd trwy leihau nifer y moch daear sydd heb eu brechu sy’n mewnfudo ac yn helpu i leihau’r gost i ffermwyr.

Mae’r Soil Association y Pridd yn gweithio ag EcoCon i weld sut y gallai brechu moch daear gael ei osod mewn system rheoli TB buchol ehangach. Cynhelir cyfarfod yn y Gelli Aur ddydd Gwener 20 Ionawr (gweler ein tudalennau digwyddiadau am fanylion). Bydd Dr Iain Trewby yn siarad am brosesau brechu moch daear gan roi trosolwg o’r prosiect adleoli moch daear y maent yn rheolwyr prosiect arnom a bydd Andrew Crace-Calvert yn esbonio sut y rhoddir rhaglen brechu moch daear fasnachol ar waith.

Yn ôl Kate Still, Cynghorydd Lles Anifeiliaid y Soil Association, ‘Beth bynnag am gyhoeddiad y Llywodraeth, rydym o’r farn ei bod yn hanfodol bod ffermwyr yn edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael i leihau peryglon TB buchol ar eu ffermydd. Gobeithiwn y bydd y cyfarfod hwn yn sicrhau bod ffermwyr yn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus ar y ffordd gywir ar eu cyfer.”

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ar 0117 314 5174.

Stori gynt: Gwneud bwyd dofednod organig yn fwy cynaliadwy
Stori nesaf: Ymgynghori ar Ddiwygio’r PAC – cymryd rhan

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.