Mae Canolfan Organig Cymru yn helpu un fferwr i newid ei fusnes, gan ganiatau iddo ganolbwyntio ar ei flaenoriaethau professiynol a phersonol tra’n gwneud ei fferm yn fwy cynaliadwy a chreu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr ifainc.
Fferm organig 120 ha yw Ewan Brook sy’n cynnal mentrau eidion, defaid ac âr, ger Crucywel ym Mhowys. Fe’i perchenogir yn rhannol a’i rheoli gan Roger Bufton. Mae Roger am newid cyfeiriad y busnes er mwyn canolbwyntio ar y cnydau, gan dyfu grawn at felino a phorthiant a hadau ar gyfer cnydau grawn a thir glas.
Fodd bynnag, mae’n sylweddoli bod da byw a’u tail yn chwarae rhan hanfodol yn ei system organig. Felly, mae’n bwriadu cychwyn ar system cylchdroi cnydau ar gyfer y rhan fwyaf o’r fferm a chynnig y tir sydd heb fod o dan rawn i ffermwr ifanc (neu grŵp o ffermwyr) yn ddi-rent, i’w ddefnyddio’n bennaf ar gyfer mentrau da byw gan gynnwys eidion, defaid a dofednod. Bydd y tir hwn yn cynnwys cyfnodau meithrin ffrwythlondeb y cylchdroad, gyda phori ar y cnydau hadau tir glas a darn bach o borfa barhaol. Cyfanswm yr arwynebedd fydd rhwng 50 a 60 ha bob blwyddyn.
Mae’re Ganolfan a Chlybiau Ffermwyr Ifainc CYmru yn trefnu diwrnod agored ar y fferm ar 14 Mehefin i esbonio buddion y system.
Yn ôl Roger, ‘System sy’n wirioneddol fuddiol i bawb yw hon. Dw i’n gallu canolbwyntio ar y cnydau, ond o hyd, dw i’n cael holl fanteision cadw stoc ar y fferm. Ar yr un pryd, mae pobl ifainc yn cael troed ar yr ysgol.’
‘This is a truly beneficial system for everyone,’ said Roger. ‘I’m able to focus on the crops, but I still get all the benefits of having stock on the farm. At the same time, youngsters get a foot on the ladder.’
I ddarganfod mwy, cysylltwch â To find out more, contact
ar 01970 621632.
darllen mwy