Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Addysg am y gadwyn cyflenwi bwyd

Yn aml dywedir bod angen i’r cyhoedd gael mwy o addysg ynghylch sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu fel y gallant wneud dewisiadau call o ran pa fwydydd y dylent eu prynu. Fodd bynnag, rhaid i addysg sy’n wirioneddol effeithiol gymryd i ystyriaeth yr agweddau a’r gwerthoedd sydd eisoes yn cael eu coleddu. Felly cam cyntaf pwysig wrth benderfynu sut olwg sydd ar addysg fwyd effeithiol yw cael gwybod beth yw gwir farn pobl am fwyd a beth sy’n ysgogi eu dewisiadau. Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngholeg Powys ym
mis Hydref diwethaf, daeth oddeutu 20 o bobl ynghyd i edrych ar beth oedd wedi dod â
nhw i’r diwydiant bwyd a sut roeddent am ei weld yn datblygu. Roedd y bobl hyn yn cynrychioli pob rhan o’r gadwyn fwyd, o ffermwyr a thyfwyr, i fanwerthwyr ac arlwywyr ac o fyfyrwyr 16 oed i bobl yn eu chwedegau.

Buont yn sôn am eu bywydau, am sut, er
enghraifft, mai ffermwyr, oedd eu rhieni neu y
ffordd roedd eu rhieni wedi dysgu iddynt sut i
goginio, neu am ddarganfod bwydydd newydd pan aethant i’r brifysgol; neu bu sôn am ddarllen
am brinder bwyd yn y byd datblygol. Buont hefyd
yn ystyried sut olwg fyddai ar y system fwyd
ddelfrydol a beth sy’n ein hatal rhag creu system
o’r fath. Yn olaf, buont yn trafod pa addysg sydd
ei hangen, gan alw am fynd yn ôl at sgiliau
coginio a garddio, gwell dealltwriaeth o systemau
bwyd a mynd yn ôl at werthfawrogi rhannu prydau
o fwyd a mwynhau diwylliant bwyd.

Trefnwyd y digwyddiad gan staff o Ganolfan Organig Cymru, Canolfan y Dechnoleg Amgen, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Glyndwr sy’n cydweithio i ddatblygu addysg fwyd fel rhan o Ganolfan Ranbarthol Cymru ar gyfer Arbenigedd mewn Addysg er Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang.

Llawrlwythwch yr adroddiad yma.

darllen mwy   

Stori gynt: Gwell Fusnes – Creu modelau busnes cynaliadwy
Stori nesaf: Rheoli adnoddau naturiol Cymru: ymgynghoriad

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.