Mae ymgyrch hysbysebu gyntaf Cymru i hyrwyddo manteision prynu cynnyrch organig nôl heddiw (Llun Medi 3ydd) i nodi dechrau National Organic Month yn y DU wrth i bosteri sy’n dangos dau ‘gymeriad’ newydd gael eu gweld am y tro cyntaf mewn archfarchnadoedd ar draws Cymru.
Mae ail elfen yr ymgyrch, sy’n cael ei gweinyddu gan Canolfan Organig Cymru o dan y pennawd ‘Organig, yn Naturiol Wahanol yn dangos dau oen yn trafod manteision diet mwy naturiol ac yn gwahodd defnyddwyr i ymweld â thudalen Gweplyfr yr ymgyrch www.facebook.com/Organic <http://www.facebook.com/Organic> Centre Wales er mwyn darganfod mwy am fanteision symud at organig.
I ddathlu National Organic Month, gall ymwelwyr â thudalen Facebook hefyd drwy gydol mis Medi gynnig am wobr o brofiad spa organig moethus yn un o ganolfannau llety a spa mwyaf blaenllaw Cymru. Mae tudalen Facebook Canolfan Organig Cymru hefyd yn cynnwys ryseitiau organig, erthyglau a rhestrau o ddigwyddiadau bwyd sy’n dod i fyny.
“Roedd rhaid i ni feddwl am syniad a fyddai’n coroni ar y ‘cennin clebran’ o elfen gyntaf yr ymgyrch wnaeth yn sicr ddal dychymyg y cyhoedd,” meddai Dafydd Owen o Ganolfan Organig Cymru. “Mae cig oen Cymru, ac yn haeddiannol felly, yn cael ei gydnabod ar draws y byd am ei flas a’i ansawdd ac mae gwerthiant cig oen organig wedi saethu i fyny yn y DU yn y blynyddoedd diwethaf; felly roedd y dewis yn berffaith.”
darllen mwy