Yn agored am geisiadau – Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013
Yn agored am geisiadau – Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013
Mae Gwobr Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013 yn agored am geisiadau hyd at ddiwedd mis Ionawr.
Mae Tyfwr Organig y Flwyddyn yn agored i dyfwyr ffrwythau brig, saladau, ffrwythau meddal a llysiau.
Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno i’r tyfwr sy’n creu’r argraff orau ar y beirniaid. Bydd yn rhaid i’r tyfwr ddangos rhagoriaeth mewn un neu ragor o feysydd megis, bodlonrwydd cwsmeriaid, arloesedd, rheoli costau, hylendid cnydau, ystod y cynnyrch, twf, ansawdd y cynnyrch, systemau, cadw/cymell staff, defnydd o dechnoleg/offer ac yn y blaen.
Ewch am y gydnabyddiaeth rydych yn ei haeddu a chodi proffil cynnyrch organig Cymru trwy ymuno â’r gystadleuaeth hon i’r DU gyfan.
Os hoffech i Ganolfan Organig Cymru eich helpu â’ch cais, cysylltwch heddiw ar 01970 823029.
darllen mwy