Mae gan y prosiect BOBL rhywfaint o gyllid i gefnogi busnesion a hoffai ymweld â Biofach yn 2013. Mae amser yn brin gan fod y digwyddiad pedwar diwrnod yn dechrau ar 13 Chwefror 2013.
Mae’r prosiect wedi gofyn a oes cefnogaeth oddi wrth fusnesion organig yng Nghymru i fynychu’r digwyddiad blynyddol and nid oedd yna ddigon o ddiddordeb i gyfiawnhau stondin yno. Ond mae’r prosiect yn medru cefnogi grwpiau masnachol oedd eisiau mynd i’r digwyddiad i ddysgu mwy. Yn ystod cyfres o ‘business dialogues’ mis Tachwedd llynedd roedd nifer o fusnesion wedi dangos diddordeb yn mynychu’r digwyddiad er mwyn asesu ei botensial i gynorthwyo’u datblygiad nhw.
Os ydych yn credu gallai Biofach bod o fudd i’ch busnes chi ac am weld dros eich hunan beth yw’r holl son cliciwch ar y linc ‘darllen mwy’. Darllenwch a chwblhewch y ffurflen gais a’i dychwelyd i Dafydd Owen ar [email protected] erbyn 24 Ionawr.
darllen mwy