Hyfforddiant: Gwneud y gorau o’r cyfryngau 19 Chwefror 2013, Penpont, Aberhonddu
Mae Canolfan Organig Cymru yn cynnig diwrnod o hyfforddiant mewn gwneud y gorau o’r cyfryngau ar 19 Chwefror 2013. Ni fyddwch yn gorfod talu am yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r prosiect BOBL.
Mae’r diwrnod yn gyfle prin i weithio gyda darlledwyr profiadol a fydd yn medru magu’r hyder sydd angen arnoch i wneud y gorau o’r cyfleuon sy’n codi trwy’r cyfryngau. Mae’r diwrnod llawn yn cynnwys cyngor ar ddatblygu’r negeuson rydych eisiau cyfathrebu a chyfweliadau. Mae’r prynhawn yn cynnwys arolwg ar ddefnyddio Weplyfr a Trydar, heb llosgu’ch diwrnod ar-lein, a deall sut medrant cyfrannu at eich bywoliaeth.
Emily Davies, Dofednod Organig Capestone:
‘Roedd yr hyfforddiant yn arbennig o fuddiol. Ro’n i’n ansicr beth i ddisgwyl – ond erbyn diwedd y dydd roeddwn wedi datblygu’n sgiliau siarad cyhoeddus a thechnegau cyfryngol ac roedd yn wir hwb i’n hyder.’