Christine Tacon yn cael ei phenodi fel Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd
Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog dros Ddefnyddwyr a Chystadleuaeth Jo Swinson mai Christine Tacon sydd wedi’i phenodi i rôl newydd y Dyfarnwr Cod Cyflenwi Bwydydd annibynnol.
Yn ei rôl newydd bydd Ms Tacon yn gyfrifol am orfodi’r Cod Ymarfer Cyflenwi Bwydydd, sy’n rheoleiddio rhyngweithio rhwng y deg archfarchnad fwyaf sydd â throsiant blynyddol o £1 filiwn a’u cyflenwyr uniongyrchol.
Ar ben hynny, bydd y grym gan y Dyfarnwr i lansio ymchwiliadau pan fydd amheuaeth bod y Cod wedi’i dorri, gan gynnwys achosion sy’n codi o gwynion cyfrinachol o unrhyw ffynhonnell. Os bydd yn cael hyd i dystiolaeth o dorri’r Cod, gall y Dyfarnwr wneud argymhellion yn erbyn archfarchnad, mynnu eu bod yn cyhoeddi manylion y torri neu, yn yr achosion mwyaf eithafol, osod dirwyon. Bydd y pŵer ganddi hefyd i gymrodeddu mewn anghydfodau rhwng archfarchnadoedd mawr a’u cyflenwyr uniongyrchol.
darllen mwy