Mae’r Ardd Fotaneg wedi lansio gwefan ei brosiect newydd, Tyfu’r Dyfodol, a fydd yn trefnu cyrsiau garddio ar hyd a lled Cymru ac ar-lein. Dywedant:
"Os ydych yn hoffi dysgu mewn ystafell ddosbarth neu ddysgu ar-lein yng nghysur eich cartref, gallwn eich helpu.
Os ydych yn awyddus i dyfu gardd gegin yn Abertawe, neu wedi blino gan pryfed ardd yn Eryri, gallwn eich helpu.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yng nghanol rhwydwaith o leoliadau ar draws Cymru sy’n ymroddedig i’ch helpu chi i dyfu bwyd blasus a maethlon.
Mae’r cyrsiau yn hwyl, hyblyg ac yn rhad neu am ddim. Mae gennym amrywiaeth o gyrsiau ac yn cwmpasu llawer o bynciau. Nid oes angen cymwysterau ac rydym yn croesawu pawb."
Ymwelwch a’r wefan i wybod mwy: www.tyfurdyfodol.co.uk