![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Newyddion organig o Gymru a thu hwntmwy o newyddion…Adroddiad Marchnad Organig y Soil Association 2010Cyhoeddwyd Adroddiad Marchnad Organig diweddaraf y Soil Association ar ddydd Llun, 12 Ebrill. Disgynnodd gwerthiant cynhyrchion organig yn y DU 12.9% yn 2009 i £1.84 biliwn. Eto, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd galed, y mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod hyder yn cynyddu ymhlith cwsmeriaid. Yn seiliedig ar dystiolaeth o fisoedd cynnar y flwyddyn hon, y mae’r Soil Association yn rhagweld ehangiad bychan o rhwng 2% a 5% yn y farchnad yn 2010. Deil cynhyrchion organig i ddenu siopwyr o bob cefndir, gyda grwpiau sy’n cynnwys gweithwyr llafuriol ac achlysurol, pensiynwyr, myfyrwyr, a phobl ar fudd daliadau yn gyfrifol am 33% o’r arian a wariwyd. Dyma a ddywed Peter Melchett, Cyfarwyddwr Polisi’r Soil Association: “Y cwestiwn y dylem ei ofyn mewn gwirionedd yw nid ‘a fedrwn ni fforddio bwyd organig?’ ond ‘a fedr saernïwyr polisi fforddio rhoi cyn lleied o sylw i’r cyfraniad posibl y gall ffermio organig ei wneud i ddiogelwch bwyd a mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd?’ Yn y cyfamser, y mae angen inni ail-danio’r math o alw o du cwsmeriaid na fydd gwneuthurwyr polisi ac adwerthwyr yn gallu ei anwybyddu.” Mae’r adroddiad llawn ar gael ar wefan y Soil Association
Mwy o newyddion | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||