Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Newyddion organig o Gymru a thu hwnt

mwy o newyddion…

Llais i’r DU yn Ewrop

Cymerodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru, ran yng nghyfarfod cangen y DU o grwp Undeb Ewropeaidd IFOAM a gynhaliwyd yn y Sioe Cynhyrchion Naturiol ac Organig yn Olympia ar ddydd Llun, 12 Ebrill. Cynhaliwyd y cyfarfod yno er mwyn denu cwmnïau newydd fel y gallai’r DU gymryd mantais o swyddfa grwp UE IFOAM ym Mrwsel a, thrwy hynny, gael dylanwad ar bolisi. Mae grwp UE IFOAM yn trafod y Polisi Amaethyddol Cyffredin yn y cyfnod ar ôl 2013, a chytunodd grwp y DU y dylai hynny fod yn ganolbwynt trafodaeth yn y cyfarfod nesaf.

Yn ogystal â bod yn fforwm hanfodol ar gyfer ymddiddan yn y DU, y mae’r grwp hefyd yn cyfnerthu negeseuon rhwng y DU a Brwsel. Yn y cyfarfod hwn, trafodwyd systemau cartrefu rhenciog ar gyfer dofednod a daethpwyd i gytundeb parthed cynhyrchu bwyd organig ‘allan o’r pridd’. Yn ogystal, cytunodd y grwp y dylai’r gwaharddiad ar ddefnyddio carthion mewn systemau organig gael ei adolygu.

Trafodwyd materion eraill:
• Llythyr Peter Melchett i Hilary Benn ac ateb y Gweinidog
• Cynhyrchiad fitaminau o ddeilliadau GM
• Atafaeliad carbon a systemau organig
Yn olaf oll, gofynnodd y Cadeirydd, Christopher Stopes, sydd hefyd yn llywydd grwp yr UE, am adborth gan gwmnïau parthed y gofyniad i ddefnyddio logo’r UE o fis Gorffennaf eleni. (I gael rhagor o wybodaeth, gweler ffeithlen Canolfan Organig Cymru neu gofynnwch i’ch corff Rheoli).

Pe carech fynegi barn am unrhyw un o’r eitemau hyn, neu pe carech glywed rhagor am y drafodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru.

Bydd dwy gynhadledd IFOAM yn cael eu cynnal cyn bo hir: un ar y Cytundeb Newydd Gwyrdd ym Madrid ar 7 Mehefin, a’r llall ar reoliad yr UE yn Rhufain ar 21-22 Gorffennaf. Manylion

Stori gynt: Adroddiad Marchnad Organig y Soil Association 2010
Stori nesaf: Ffeithlenni newydd: labelu cynhyrchion organig, a thechnoleg genynnau

Mwy o newyddion

In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.