Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Strategaeth  |  Cynllun Ffermio Organig  |  Cynlluniau gweithredu  |  Cynllun Datblygu Gwledig  |  Ymgynghoriadau  |  Safonau  |  Ystadegau

Cynllun Ffermio Organig /Cynllun Troi at Ffermio Organig

[imageright:clover_and_grass_bawd.jpg::clover and grass
Er 1999, mae cynlluniau ffermio organig Llywodraeth y Cynulliad (Y Cynllun Ffermio Organig a’r Cynllun Troi at Ffermio Organig) wedi’u cynllunio i roi cymorth i ffermwyr wrth droi at gynhyrchu’n organig ac i barhau eu statws organig yn ystod einioes y cytundeb. Mae’r cynlluniau cyfredol yn cynnwys.

Cynllun Ffermio Organig. Cyflwynwyd y cynllun hwn yn 2008. Gallodd ffermwyr a oedd yn rhan o ragflaenydd y cynllun drosglwyddo i’r cynllun hwn 15 Mai 2008. Wrth wneud hyn, roeddent yn ymrwymo i gynhyrchu’n organig am 5 mlynedd ymhellach (h.y. bydd eu cytundebau’n dod i ben 14 Mai 2011). Bydd tir y dechreuwyd ei droi rhwng 16 Mai a 22 Hydref 2008 hefyd yn cael ei gynnwys yn y cynllun hwn.

Y Cynlluniau Trosi Ffermio Organig (OFCS). Cyflwynwyd y cynllun cyntaf yn 2009, ac fe agorwyd y ffenestri cais hefyd yn yr hydref 2010 a 2011. Mae rhain hefyd yn gytundebau pum mlynedd.

Glastir


Mae Glastir yn cymryd lle’r Cynllun Ffermio Organig, Tir Gofal, Tir Cynnal a Thir Mynydd ac mae sawl elfen iddo

Elfen Cymru Gyfan (AWE) – cynllun rheoli fferm gyfan sy’n agored i geisiadau gan bob ffermwr a rheolwr tir, ledled Cymru (gweler Canllaw cyffredinol, canllaw technegol; a cherdyn sgorio).

Elfen wedi’i Thargedu (TE) – cynllun i ran o’r fferm a fwriedir i sicrhau cryn welliannau i statws amgylcheddol amrywiaeth o gynefinoedd, rhywogaethau, pridd a dŵr a allai hefyd ofyn newidiadau i’r arferion amaethyddol presennol.

Elfen Tir Comin – wedi’i dynodi i roi cymorth i gyflenwi buddiannau amgylcheddol ar dir comin.
Cynllun Lleihau Carbon Amaethyddol (ACRES) ar gael i ffermwyr sydd â chontract o dan yr Elfen Cymru Gyfan

Cymorth i droi’n organig. Mae’r manylion yn dal i gael eu trafod.
Dewisiadau i ffermwyr organig yn Glastir

Mae tir sydd wedi cwblhau cael ei droi’n organig yn gymwys i dderbyn gostyngiad 50% yn y pwyntiau sydd eu hangen i ymuno â’r cynllun fel cydnabyddiaeth o’r buddiannau amgylcheddol parhaus y mae ffermio organig yn eu cyflenwi. Mae gan ddeiliaid presennol OFS/OFCS sy’n ymuno â Glastir yn 2012 nifer o ddewisiadau. Cliciwch yma am fanylion.
Diweddariadau’r cynllun

Hawliadau raliadau sefydlu OFS/OFCS
In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.