Non Gamstop CasinoGambling Sites Not On GamstopOnline Casino Not On GamstopBest Non Gamstop CasinosNew Betting Sites UK
Organic Centre Wales logo
  
Providing information on organic food and farming in Wales
Subscribe to our newsletter

Rheoliadau a safonau organig

hwrdd
Mae ffermio organig yn seiliedig ar bedair prif egwyddor – iechyd, ecoleg, gofal a thegwch. Mae popeth y mae ffermwyr yn ei wneud – neu beidio â’i wneud – yn berthnasol i un neu ragor o’r egwyddorion hyn, a rôl y safonau organig yw eu rhoi ar waith ar lefel y fferm. Mae’r adran hon yn egluro’r system reoleiddio ac ardystio cysylltiedig â bwyd a ffermio organig gan ddarparu dolenni â rhai adnoddau pwysig.

Mae ystyr penodol iawn i’r term ‘organig’. Mae wedi’i ymgorffori mewn rheoliadau’r UE. ((EC) Rhif 834/2007 a (EC) Rhif 889/2008). Y rhain i bob perwyl yw’r safonau gofynnol sy’n berthnasol ar draws yr UE cyfan. Yn ddiweddar, mae rheoliadau’r UE wedi cael eu diwygio a daeth y rheoliadau newydd i rym 1 Ionawr 2009. Darllenwch ein Taflen Ffeithiau sy’n crynhoi’r prif newidiadau ac a’r goblygiadau o ran labelu am fwy o wybodaeth

Mae’r aelod-wladwriaethau’n dehongli’r rheoli ac yn eu cymhwyso yn eu gwledydd eu hunain. Rhagosodir safonau’r DU yn DEFRA ‘Guidance Document on European Organic Standards’. Yn y DU cyrff rheoli preifat (a adwaenid gynt fel cyrff ardystio) sy’n gyfrifol am roi’r safonau ar waith ar lefel y fferm, a cheir manylion cyswllt ar gyfer y prif gyrff yng Nghymru isod. Maent yn gwneud hyn yn bennaf trwy arolygu blynyddol ac yn achlysurol trwy haparolygon. Darllenwch ein Ffeithlen Cyflwyniad i ardystio organig i ffermwyr a thyfwyr am fwy o wybodaeth.

Wrth i’r sector organig dyfu a datblygu, felly hefyd y safonau, er enghraifft, i ymateb i sefyllfa sy’n newid neu er mwyn unioni systemau’n fwy â’r egwyddorion. Gall newidiadau i’r safonau gael eu gwneud ar lefel yr UE, y DU (DEFRA) neu reoli preifat, felly mae’n bwysig eich bod yn gyfarwydd â gofynion y corff rheoli o’ch dewis. Dilynwch y dolenni isod yn y tabl isod i gael diweddariadau ynglŷn â safonau a chyhoeddiadau technegol gan y prif gyrff rheoli.
In partnership with
ADAS logo Aberystwyth University logo Organic Research Centre Elm Farm logo
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus
Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB
T:01970 622248   E: [email protected]
Funding bodies
logo of the European Agricultural Fund for Rural DevelopmentWelsh Assembly Government logo

Useful resources

Website design: mach2media and Technoleg Taliesin Cyf.