Y mis diwethaf, lansiodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, brosiect newydd a luniwyd i gefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru er mwyn gwella effeithlonrwydd, cynaliadwyedd a gwerth ychwanegol y gadwyn cyflenwi llaeth.
Dywedodd: “Mae’n amser pwysig yn awr i ystyried dyfodol bwyd, Fel Gweinidog Materion Gwledig Cymru, rwy’n awyddus i Gymru wneud y gorau a fedrwn i sicrhau system bwyd cynaliadwy sy’n diwallu ein blaenoriaethau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.”
Dywedodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru: “Rydym yn falch i weld y gefnogaeth ychwanegol hon i’n sector llaeth, ac anogwn ffermwyr llaeth organig i ymdaflu i’r prosiect er budd iddynt. Bydd y prosiect hwn yn atgyfnerthu prosiect y sector organig Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) sy’n anelu at greu gwell cysylltiadau ledled y gymuned busnesau organig i sicrhau proffidioldeb, cynaliadwyedd a pherfformiad amgylcheddol teilwng.