![]() Providing information on organic food and farming in Wales | ||
![]()
|
Y Cynllun Datblygu Gwledig Mae’r Cynllun Datblygu Gwledig yn ffynhonnell ar gyfer llawer o gyllid sy’n cefnogi’r Gymru wledig.Mae Rheoliad y Cyngor Ewropeaidd ar gefnogaeth i Ddatblygu Ewropeaidd (o Gronfa Amaethyddiaeth Ewropeaidd Datblygu Gwledig (EAFRD)) yn gosod y fframwaith ar gyfer rhaglenni cefnogi datblygu gwledig yn cynnwys cynlluniau amaeth-amgylcheddol a chynlluniau Leader ar gyfer 2007-2013. Mae Cynllun Datblygu Cymru Wledig yn cynnwys pedwar maes allweddol ar gyfer gweithredu (Echelau): Echel 1 – Gwella cystadleuaeth yn y Sector Amaethyddol a’r Sector Coedwigaeth Echel 2 – Gwella’r Amgylchedd a’r Cefn Gwlad Echel 3 – Ansawdd Bywyd mewn Ardaloedd Gwledig ac Arallgyfeirio’r Economi Wledig Echel 4 – LEADER Fe fydd y Cynllun yn rhedeg o 2007 i 2013 gyda chyfanswm chyllideb o £795 miliwn, gyda £195 miliwn yn cynrychioli’r cyfraniad o ffynonellau cyllid yr Undeb Ewropeaidd. Mae Sue Fowler, Cyfarwyddwraig Canolfan Organig Cymru, yn aelod o Rwydwaith Wledig Cymru a ffurfiwyd i gefnogi gweithredu ac arfarnu’r Cynllun Datblygu Gwledig trwy gyfnewid ymarfer da a phrofiad. Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar dudalennau’r Cynllun Datblygu Gwledig ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru. Echel 1Gellir cyflwyno ceisiadau ar gyfer cynlluniau grant Prosesu a Marchnata ac Effeithlonrwydd Cadwyn Gyflenwi (o dan Echel 1) yn awr.Mae Canolfan Organig Cymru wedi gweithio gyda busnesau yn y sector organig ac mae wedi debyn cyllid Effeithlonrwydd Cadwyn Gyflenwi er mwyn cefnogi’r sector organig yng Nghymru. Gweler gwedudalen Cysylltiadau Busnes Organig Gwell. Os dymunwch ymwneud â hyn, cysylltwch â os gwelwch yn dda. Mae Canolfan Organig Cymru yn rhedeg y Cynllun Datblygu Organig fel rhan o Cyswllt Ffermio. Echel 2Gweler ein tudalen am y Cynllun Ffermio Organig, sy’n dod o dan Echel 2 o’r Cynllun Datblygu Gwledig.Echel 3 a 4Mae Canolfan Organig Cymru wedi cynhyrchu tudalen wybodaeth am sut i gael mynediad at gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig o dan Echelau 3 a 4. | |
Organic Centre Wales, IBERS, Gogerddan Campus Aberystwyth University, Ceredigion, SY23 3EB T:01970 622248 E: [email protected] | ||