Croeso i’r tudalen newyddion, lle y gallwch ddarllen am y sector organig yng Nghymru a thu hwnt.
.
Os am dderbyn ein bwletinau misol, sydd yn crynhoi’r newyddion ar y tudalen hwn,
Newyddion i fusnesau – Straeon cynharach
Dangos: Newyddion i gyd Newyddion cyffredinol Newyddion i gynhyrchwyr Newyddion i ddefnyddwyr Newyddion i fusnesau
New farmer-led fund announces first research grants (08-05-2013)The Soil Association announces the winners of the first of their farmer-led innovative research grants funded by the Duchy Originals Future Farming Programme.
Research is more crucial than ever to agriculture as the industry strives to farm sustainably in the face…
Stori llawn
Small Changes, Big Difference for Organic September (07-05-2013)The Soil Association is asking organic brands and retailers to start sharing their ideas for this year’s Organic September.
Now in its fifteenth year, this month-long celebration of all things organic gets a new theme and a brand new look for…
Stori llawn
Cytundebau Cynllun Ffermio Organig yn ymestyn i 31 Rhagfyr 2014. (07-05-2013)Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig ymestyn cytundebau Cynllun Ffermio Organig hyd at ddiwedd 2014. Mae hyn yn berthnasol i bawb sy’n dal cytundebau Cynllun Ffermio Organig, gan gynnwys y rheini na dderbyniodd y cynnig blaenorol i ymestyn hyd at ddiwedd eleni….
Stori llawn
Gwlân Gwyrthiol! (07-05-2013)Cynhaliwyd Gwyrthwlan Cymru ar 27 a 28 Ebrill ar faes y Sioe Frenhinol ac roedd yn cynnwys sioe arddangos anhygoel o brosiect Gwlân Organig Cymru BOBL. Gyda’r bwriad o amlygu’r cyfleoedd cyffrous i wlân organig yng Nghymru, mae hwn yn…
Stori llawn
Welsh action plan to halt decline in bees (03-05-2013)Welsh Ministers want to encourage green spaces, allotments and gardens to boost Wales’ bee population.
The value of pollinators to the UK government is estimated to be £430m a year, but populations have been on the decline for 30…
Stori llawn
Calon Wen yn lansio’r peiriant gwerthu llaeth potel cyntaf (03-04-2013)Lansiodd Calon Wen eu peiriant gwerthu cyntaf erioed a fydd yn cynnig llaeth, menyn a chaws organig blasus a gynhyrchir o laeth cydweithfa’r ffermwyr teulu.
Mae’n sefyll y tu allan i siop leol un o’u ffermwyr yn Holt ger Wrecsam….
Stori llawn
Cynhyrchion Naturiol ac Organig, 7-8 Ebrill yn Olympia, Llundain (02-04-2013)Mae’r prosiect BOBL yn cynnig cyfrannu hyd at £150 (yn amodol ar ddarparu derbynebau dilys) ar gyfer teithio a chynhaliaeth i fusnesau organig o Gymru sydd am fynychu ffair fasnach Cynhyrchion Naturiol ac Organig Ewrop ar 7-8 Ebrill 2013 yn…
Stori llawn
Ffau’r Ddraig Werdd (02-04-2013)Yn rhan o Hay on Earth, bydd Ffau’r Ddraig Werdd eleni’n gweld dau brosiect dychmygus yng Nghymru yn derbyn hyd at £15,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac UnLtd. Dros ddeuddydd, bydd prosiectau ar y rhestr fer yn mynd benben…
Stori llawn
Adroddiadau’n datgelu meysydd twf a heriau mewn gwerthiant organig (20-03-2013)Mae’r Adroddiad Marchnad Organig a gyhoeddir heddiw (20 Mawrth) gan Gymdeithas y Pridd yn amlygu meysydd twf allweddol mewn manwerthu ar-lein, mannau gwerthu annibynnol a symudiad tuag at ddefnyddwyr iau yn ystod 2012. Yn gyffredinol, mae’r farchnad wedi dowcio 1.5%…
Stori llawn
Cynhadledd y Ganolfan Ymchwil Organig i Gynhyrchwyr – Gwireddu arloesedd dan arweiniad cynhyrchwyr (28-02-2013)Cynhaliwyd Cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil Organig i Gynhyrchwyr Organig ym mis Ionawr gan ddod at ei gilydd gynhyrchwyr organig a chynhyrchwyr eraill sydd â diddordeb mewn dulliau ecolegol o gynhyrchu bwyd cynaliadwy, gydag ymchwilwyr a chynghorwyr i rannu…
Stori llawn
‘Yr Hyfforddiant Gorau mewn 12 mlynedd’ (28-02-2013)Ymunodd sawl busnes organig â thîm Canolfan Organig Cymru ar 19 Chwefror i gymryd rhan mewn cwrs hyfforddi ynglŷn â’r cyfryngau, yn ymdrin â darlledu a’r cyfryngau cymdeithasu. Gadawodd y cynrychiolwyr y cwrs wedi dysgu’r technegau hanfodol ar gyfer delio…
Stori llawn
Cyrraedd cwsmeriaid posibl newydd drwy Gynllun y Nod Arlwyo i’r Cyflenwr (27-02-2013)Erbyn hyn mae dros 600,000 o brydau bwyd y Nod Arlwyo’n cael eu serfio bob dydd mewn ysgolion, ysbytai, prifysgolion, meithrinfeydd a bwytai staff ar draws y DU. Wrth i’r Nod Arlwyo dyfu, felly hefyd y galw am gynhyrchion sy’n…
Stori llawn
Wanted! Research into slugs, thistles, TB and much more (25-02-2013)DUCHY ORIGINALS FUTURE FARMING PROGRAMME
Farmers and growers were not short of ideas when asked by the Soil Association to suggest topics that they would like to be researched. Topics ranged from weed control and animal welfare to tackling the spread…
Stori llawn
(13-02-2013)A ydych yn ffermwr, tyddynwr neu arddwr cymunedol sydd am groesawu ymweliadau gan ysgolion? Neu a ydych yn gweithio i sefydliad sydd yn trefnu ymweliadau cefn gwlad ar gyfer ysgolion? Cwrs hyfforddiant yw CEVAS sydd yn cynnwys iechyd a diogelwch,…
Stori llawn
Hyfforddiant: Gwneud y gorau o’r cyfryngau 19 Chwefror 2013, Penpont, Aberhonddu (17-01-2013)Mae Canolfan Organig Cymru yn cynnig diwrnod o hyfforddiant mewn gwneud y gorau o’r cyfryngau ar 19 Chwefror 2013. Ni fyddwch yn gorfod talu am yr hyfforddiant sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r prosiect BOBL.
Mae’r diwrnod yn gyfle…
Stori llawn
Yn agored am geisiadau – Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013 (10-01-2013)Yn agored am geisiadau – Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013
Mae Gwobr Tyfwr Organig y Flwyddyn 2013 yn agored am geisiadau hyd at ddiwedd mis Ionawr.
Mae Tyfwr Organig y Flwyddyn yn agored i dyfwyr ffrwythau brig, saladau, ffrwythau meddal a llysiau….
Stori llawn
Ymchwil Ffermio i’r Dyfodol: Cymdeithas y Pridd yn rhoi ffermwyr wrth y llyw (08-01-2013)Cyhoeddwyd lansio cronfa £125,000 gan Gymdeithas y Pridd yn ddiweddar sy’n rhoi ffermwyr a thyfwyr wrth y llyw er mwyn pennu heriau ymchwil newydd. Mae’r gronfa ymchwil yn rhan o Raglen Ffermio i’r Dyfodol Duchy Originals sy’n cefnogi arloesedd mewn…
Stori llawn
Cwrs Hyfforddiant Manwerthu a Rhwydweithio, 5 Mawrth 2013 (08-01-2013)Mae Canolfan Organig Cymru’n cynnig cyfle hyfforddi cyffrous ar gyfer 2013 yr ydym wedi’i ddatblygu drwy gydweithio’n agos â nifer o fusnesau organig. Ni godir tâl am yr hyfforddiant yma sy’n cael ei gynnig fel rhan o’r prosiect…
Stori llawn
Adroddiadau Cymunedau Bwyd Cynaliadwy nawr ar gael ar-lein (17-12-2012)Cafodd adroddiad terfynol y prosiect Cymunedau Bwyd Cynaliadwy (SFC) ei gyhoeddi i wefan Canolfan Organig Cymru ym mis Gorffennaf 2012. Mae’r adroddiadau o’r gweithgareddau unigol nawr wedi cael eu cwblhau ac i’w gael ar-lein. Mae’r adroddiadau yn esiamplau…
Stori llawn
Siop fferm symudol (14-12-2012)Siop Fferm Symudol
Menter newydd yng Nghaerdydd yw ‘Get Ffresh’ sy’n gwerthu llysiau organig o Ardd Farchnad Glan-yr-Afon yn ogystal â gwahanol fathau o gawl, jam, caws a bara. Bydd yn ymweld ag Ysbyty Llandochau a Chanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd ar…
Stori llawn
Canolfan Organig Cymru’n cyhoeddi pecyn cymorth marchnata (21-11-2012)Mae Canolfan Organig Cymru wedi cyhoeddi Pecyn Cymorth Cysylltiadau Cyhoeddus a Marchnata ar ei gwefan.
Mae’r pecyn cymorth yn dwyn ynghyd y deunyddiau a ddatblygwyd ar gyfer y cyrsiau Hyfforddiant yn y Cyfryngau a gynigir i fusnesau organig. Mae…
Stori llawn
Ystad y Rug yn troi’i golygon dramor am werthiant ar ôl ennill gwobr allforion arbennig (07-11-2012)Cipiodd Ystad y Rug wobr arbennig am allforion yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru: y Gwir Flas eleni.
Derbyniodd y fferm organig 2,500 erw yn Sir Ddinbych y wobr aur yng nghategori Allforion Cymru’n seiliedig ar ei llwyddiant dros y 12…
Stori llawn
Y Gymru Organig yn blasu llwyddiant yn y Gwobrau Cenedlaethol (02-11-2012)Bu busnesau organig ar draws Cymru’n blasu llwyddiant yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Bwyd a Diodydd Cymru: Y Gwir Flas eleni. Mae’r seremoni wobrwyo yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg ac fe’i cynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ar Faes y Sioe…
Stori llawn
Ymgyrch Organig Nôl gyda “Meeeeee” (05-09-2012)Mae ymgyrch hysbysebu gyntaf Cymru i hyrwyddo manteision prynu cynnyrch organig nôl heddiw (Llun Medi 3ydd) i nodi dechrau National Organic Month yn y DU wrth i bosteri sy’n dangos dau ‘gymeriad’ newydd gael eu gweld am y tro cyntaf…
Stori llawn
Gwneud porthiant organig yn fwy cynaliadwy (10-08-2012)Fel rhan o brosiect BOBL, mae Canolfan Organig Cymru wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gall porthiant organig, yn arbennig porthiant dofednod, ddod yn fwy cynaliadwy. Mae’r ffilm fer hon yn amlinellu rhai o’r materion allweddol ac mae’r…
Stori llawn
Cyhoeddiadau OCW a BOBL Awst 2012 (06-08-2012)Mae rhestr gyflawn o gyhoeddiadau wedi cael ei lwytho i wefan OCW. Mae’r rhestr yn cynnwys adroddiadau ar Gymunedau Bwyd Cynhaliadwyol, Caffael Sector Cyhoeddus, gwybodaeth technegol ar gyfer cynhyrchwyr a deunydd i gyfathrebu manteision cynnyrch organig.
Lawr-lwythwch y crynodeb a…
Stori llawn
Logo deilen yr UE bellach yn orfodol (16-07-2012)Mae logo organig newydd yr UE yn orfodol o 1 Gorffennaf 2012 ymlaen ar bob cynnyrch bwyd organig wedi’i bacio sy’n cyrraedd y safonau angenrheidiol, yn ôl adroddiad yn Europolitics. Rhoddwyd cyfnod trawsnewid o ddwy flynedd i weithredwyr addasu i’r…
Stori llawn
UDA: Organig yn cryfhau mewn marchnadoedd tramor (16-07-2012)Mae organig wedi symud tu hwnt i gilfachau marchnadoedd ffermwyr a sipiau bwyd iach i ddod yn sector bwysig yn yr economi Americanaidd ac yn ddosbarth cynwyd i wylio’n ofalus, dwedodd yr Organic Trade Association. Mae ffigyrau Adran Amaeth…
Stori llawn
Powys – Gwobr Arallgyfeirio ar y Fferm (14-06-2012)Mae teuluoedd fferm anturus yn cael eu hannog i gwneud caes am wobr gwefreiddiol sy’n cydnabod ei llwyddiant.
Mae’n rhaid eich bod yn ffermio ym Mhowys ac mae yna restr o gategoriau.
Stori llawn
Ymunwch a Siarter Bwyd Gwynedd (13-06-2012)Cafody Siarter Bwyd Gwynedd, a gefnogwyd gan prosiect BOBL, ei lansio yn Eisteddfor yr Urdd gan Arglwydd Dafydd Elis Thoms ar Ddydd Mercher 6 Mehefin.
Fe ddywedodd Cynthia Hughes o Sustainable Gwynedd Cynaliadwy Cyf: “Mae bwyd yn ganolog i fywoliaeth, diwylliant…
Stori llawn
Ymgyrch Newydd yn Annog Siopwyr i Ddewis Cynnyrch Organig (12-06-2012)Bydd ymgyrch farchnata newydd, sy’n cael ei lansio yng Nghymru heddiw (11 Mehefin), yn ceisio darbwyllo poblogaeth Cymru beth yw manteision dewis cynnyrch organig.
Yr ymgyrch, a reolir gan Ganolfan Organig Cymru, fydd y gyntaf o’i math yng Nghymru a bydd…
Stori llawn
Prosiect bwyd lleol Wrexham yn mynd o nerth i nerth (29-05-2012)Efallai ei fod yn syndod deall fod Wrecsam, fyddai’n cael ei hystyried gan lawer yn sir ddiwydiannol, yn brysur yn magu enw iddi’i hunan am fod yn ganolfan o bwys ar gyfer cynnyrch lleol.
Er mwyn helpu creu mwy o gyfleoedd…
Stori llawn
Datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr gwledig (24-04-2012)Bydd Cyswllt Ffermio yn ehangu cyrhaeddiad ei raglen Academi Amaeth arloesol. Cynlluniwyd ail elfen yr Academi Amaeth, y Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig, er mwyn meithrin cenhedlaeth newydd o arweinwyr, ac mae’n chwilio am 15 ymgeisydd a chanddynt y potensial i…
Stori llawn
Dwedwch wrth y byd a’i frawd eich bod yn organig! (19-04-2012)Diolch i bawb sydd wedi archebu arwyddion Tir Organig ac erbyn nawr ddylech chi fod wedi eu derbyn. Os nad ydych wedi gofyn am arwyddion eto, neu angen mwy, cysylltwch â
E-mail: jll At aber dot ac dot uk….
Stori llawn
Pecyn cymorth cynaliadwyedd (18-04-2012)Mae Canolfan Organig Cymru wedi datblygu pecyn cymorth cynaliadwy ar gyfer busnesau organig yng Nghymru. Mae’r pecyn wedi cael ei bostio at fusnesau ac mae ar gael ar ein gwefan.
Bydd tim BOBL allan ar y ffordd yn cwrdd â busnesau…
Stori llawn
Addysg am y gadwyn cyflenwi bwyd (16-04-2012)Yn aml dywedir bod angen i’r cyhoedd gael mwy o addysg ynghylch sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu fel y gallant wneud dewisiadau call o ran pa fwydydd y dylent eu prynu. Fodd bynnag, rhaid i addysg sy’n wirioneddol…
Stori llawn
Gwell Fusnes – Creu modelau busnes cynaliadwy (16-04-2012)Mae Canolfan Organig Cymru yn helpu un fferwr i newid ei fusnes, gan ganiatau iddo ganolbwyntio ar ei flaenoriaethau professiynol a phersonol tra’n gwneud ei fferm yn fwy cynaliadwy a chreu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr ifainc.
Fferm organig 120 ha yw…
Stori llawn
Ystadegau ffermio organig (16-02-2012)Ar ddiwedd 2010, roedd tua 8% o dir amaethyddol Cymru’n hollol organig neu’n cael ei droi’n organig. Cynyddodd yr ardal o dan reolaeth organig fwy na 50% yn ystod 2006-10, ond gostyngodd yr arwynebedd sy’n cael ei droi’n organig yn…
Stori llawn
Cynhadledd Ymchwil Organig, Birmingham (16-02-2012)Bu’r Ganolfan yn mynychu cynhadledd flynyddol y Ganolfan Ymchwil Organig – Elm Farm yn Birmingham ym mis Ionawr. Roeddem yn gallu cyflwyno gwybodaeth o’r prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig ynglŷn â gwella cynaliadwyedd y gadwyn gyflenwi a bu Sue yn…
Stori llawn
Dyheu am gadwyn cyflenwi gynaliadwy (01-02-2012)Cyflwyniad a roddwyd gan Sue Fowler, Cyfarwyddwr COG, i weithdy yng nghynhadledd Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm a gynhaliwyd ar 16 & 17 Ionawr 2012 ym mhrifysgol Aston, Birmingham.
Stori llawn
Y Ganolfan yn colli cyllid craidd (31-01-2012)Daeth cyllid Llywodraeth Cymru i’r Gwasanaeth Gwybodaeth am Droi’n Organig (OCIS) i ben 31 Rhagfyr 2011. Mae hyn yn golygu nad oes bellach wasanaeth di-dâl arbennig i helpu ffermwyr sy’n ystyried ardystio’n organig. Nid yw’n glir os bydd y gwasanaeth…
Stori llawn
Arolwg garddwriaeth (26-01-2012)Mae ADAS a Garddwriaeth Cymru yn gwahodd i gynhyrchwyr garddwriaethol gymryd rhan mewn arolwg o arddwriaeth yng Nghymru. I gwblhau’r arolwg, dilynwch y ddolen: Arolwg garddwriaeth.
Ni ddylai gymryd mwy na 10-15 munud.
Mae garddwriaeth yn sector amrywiol a gasgaredig yng Nghymru…
Stori llawn
Defnyddio’r rhyngrwyd i adeiladu’ch busnes (25-01-2012)Defnyddio Blogiau, Trydar a Gweplyfr i helpu’ch busnes oedd testun cwrs hyfforddiant BOBL rhad ac am ddim yn ddiweddar ym Metws-y-Coed. Byddant yn rhedeg mwy o’r cyrsiau hyn yn ol y galw, felly rhowch wybod.
A hefyd, a ydych chi wedi…
Stori llawn
Pecyn cymorth cynaliadwyedd (23-01-2012)Rydym wedi datblygu pecyn cymorth cynaliadwyedd newydd ar gyfer busnesau organig yng Nghymru, a gyhoeddir ar ddiwedd mis Ionawr. Bydd y pecyn cymorth yn eich cynorthwyo i wella cynaliadwyedd eich busnes drwy ddefnyddio dull cam wrth gam a thrwy ddeall…
Stori llawn
Dosbarthu bwyd organig yng ngogledd Cymru (10-01-2012)Arwyddodd cwmni dosbarthu Delsol gytundeb gyda Fferm Organig Ystadau’r Rhug yng Nghorwen cyn y Nadolig ar gyfer dosbarthu amrywiaeth helaeth o gynnyrch organig i gartrefi ledled y DU.
“Ceir galw enfawr am gynnyrch Gogledd Cymru yn lleol ac yn genedlaethol,” meddai’r…
Stori llawn
Gwneud bwyd dofednod organig yn fwy cynaliadwy (07-12-2011)Mae Canolfan Organig Cymru wedi comisiynu Canolfan Ymchwil Organig Elm Farm i asesu’r cyfraniad y gall blodau haul a hadau rêp a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ei wneud i ddognau dofednod organig.
Ar hyn o bryd mae llawer o systemau…
Stori llawn
Cynhadledd Organig: Gwell Busnes (08-11-2011)Mae adroddiad ein cynhadledd ddiweddar ar gael yn fan hyn.
Daeth dros 90 o fynychwyr i ddiwrnod o gyflwyniadau a gweithdai yn ein cynhadledd organig Cymreig eleni. Roedd y thema yn canolbwyntio ar wella perfformiad busnesau o fewn y sector organig…
Stori llawn
BOBL – diweddariad (08-11-2011)Rydym wedi derbyn adolygiad o’r prosiect ac argymhellwyd ein bod yn canolbwyntio’n fwy ar sut i ymdrin â chwsmeriaid. Pe carech gael gwybodaeth ynglŷn â sut i ymwneud â chwsmeriaid, neu wybodaeth am waith y bûm yn ei wneud fel…
Stori llawn
Llongyfarchiadau i enillwyr Gwobrau Gwir Flas organig (31-10-2011)Roedd chwe gwobr aur am gynhyrchion organig ymhlith yr enillwyr organig ar noson wobrwyo Gwir Flas Cymru yn Venu Cymru, Llandudno. Derbyniodd pedwar o gynhyrchion organig eraill wobrau arian, a thri arall wobrau efydd.
Cynhaliwyd gwobrau dathlu 10 mlynedd mewn…
Stori llawn
Guaranteed minimum price agreed for organic lamb (25-10-2011)The UK’s leading organic livestock producer group has made a landmark agreement with meat supplier Dunbia Llanybydder on guaranteed minimum prices and premium for organic lamb. The objective of the agreement is to ensure a year-round supply of organic…
Stori llawn
Mae’r cyfnod ymgeisio am OFCS 2012 wedi dechrau (27-09-2011)Mae cyfnod ymgeisio am OFCS 2012 yn rhedeg rhwng 3 Hydref a 4 Tachwedd 2011. Bydd yn rhoi cymorth ar gyfer tir sy’n dechrau cael ei droi i ffermio organig rhwng 2 Ionawr 2011 a 1 Ionawr 2012. Bydd rhaid…
Stori llawn
Busnes ethegol (07-09-2011)Nid yr hynny y mae eraill yn ei wneud i chi sy’n bwysig ond, yn hytrach, yr hynny yr ydych chi yn ei wneud i eraill. Mae prosiect BOBL yn helpu busnesau organig i weithredu’n unol ag egwyddor ‘tegwch’…
Stori llawn
Mae Cymru’n arwain y DU wrth i’w thir organig gynyddu 34% (23-08-2011)Mae mwy o dir wedi’i droi’n organig yng Nghymru nag yn unrhyw un o wledydd eraill y DU yn ôl adroddiad cenedlaethol. Mae adroddiad diweddar gan DEFRA yn dangos mai Cymru sy’n arwain y DU wrth i dir organig y…
Stori llawn
Taith Astudio Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (AGG) (23-08-2011)Fel rhan o brosiect BOBL, y mae Canolfan Organig Cymru yn trefnu taith astudio yng ngorllewin Lloegr. Bydd y daith yn cynnwys mynychu cynhadledd y Soil Association Conference ar ddydd Gwener, 16 Medi, ac ymweliad â Stroudco Food Hub ar…
Stori llawn
Sut i ddefnyddio offer cyfryngau cymdeithasol i adeiladu’ch busnes (16-08-2011)Yn pendroni a yw Blogiau, Trydar a Gweplyfr yn werth y strach ac ydyn nhw wir yn gallu helpu’ch busnes?
Dewch i’r Gweithdy Cyfryngau Cymdeithasol DI-DÂL 2 awr yma gyda Gwell Cysylltiadau Busnes Organig a chael gwybod sut y…
Stori llawn
Ennill cynhyrchion organig sy’n werth dros £100!! Sut gall y sector organig ddod yn wirioneddol gynaliadwy? (09-08-2011)Mae creu cynhyrchion organig a’u cludo at y cwsmer terfynol yn y ffordd fwyaf effeithlon a chynaliadwy’n hanfodol er mwyn i’r sector organig symud yn ei flaen. Drwy ddod yn symlach, yn fwy moesegol, canolbwyntio ar y lleol, gyda llai…
Stori llawn
Y Ganolfan yn eich Sioe Leol (20-07-2011)Yn ogystal â mynd i Sioe Fawr Llanelwedd, bydd staff Cyswllt Ffermio a Chanolfan Organig Cymru hefyd i’w gweld yn i sioeau rhanbarthol canlynol dros yr haf:
Sioe Môn: 9-10 Awst
Sioe Sir Benfro: 16-18 Awst
Sioe Dinbych a Fflint: 18 Awst
Bydd copiau…
Stori llawn
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (20-07-2011)Mae Canolfan Organig Cymry yn bresennol ym mhabell fawr Bwyd a Ffermio Organig yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad yn y Sioe eleni. Mae’r babell yn arddangos elfennau’r prosiect BOBL, yn gartref i dîm Rhaglen Datblygiad Organig Farming Connect a’r…
Stori llawn
Canllaw amaeth-dwristiaeth (20-07-2011)Mae twristiaeth yn fusnes cystadleuol, a chynhyrchwyd y llawlyfr Canolfan Organig Cymru hwn ar gyfer ffermwyr a busnesau eraill sy’n rhedeg, neu’n ystyried rhedeg, mentrau amaeth-dwristiaeth. Mae’n rhoi arolwg o’r sector amaeth-dwristiaeth organig cyfredol, yn edrych ar y farchnad, yn…
Stori llawn
Llawlyfr Rheolaeth Fferm Organig 2011/12 (20-07-2011)Mae argraffiad newydd o’r Llawlyfr Rheolaeth Fferm Organig yn awr ar gael, wedi ei gyhoeddi gan Ganolfan Ymchwil Organig Elm Farm ger Newbury. Mae’n cynnwys gwybodaeth am farchnata, ardystio, polisi ac agweddau ariannol a thechnegol ar wahanol systemau a mentrau…
Stori llawn
Llwyddiant busnes ar adegauo newid (11-07-2011)Mewn digwyddiad a gynhelir yn y Sioe Fawr wythnos nesaf, bydd Stephen Weir and Chris Stanley o Weir Total Supply Chain Sustainability yn cyflwyno astudiaethau achos ar gynaliadawyedd mewn cadwyni cyflenwi y tu hwnt i giât yr fferm. Byddant yn…
Stori llawn
Cymunedau Bwyd Cynaliadwy – Caerdydd (16-06-2011)Mae ystod o sefydliadau ar draws Caerdydd wedi derbyn gwahoddiad i ymgynghoriad Cymunedau Bwyd Cynaliadwy ar 30 Mehefin. Byddant yn cael dysgu mwy am amcanion y brosiect a chlywed syniadau ar gyfer prosiect bwyd lleol a allai cael eu hariannu….
Stori llawn
Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru (15-06-2011)Bydd y babell Organig yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad yn y Sioe eleni yn cynnwys tim Farming Connect y Rhaglen Datblygu Organig ynghyd â’r cyrff Ardystio Organig. Yno hefyd yr arddangosir elfennau o brosiect BOBL. Byddwn yn cynnwys negeseuon…
Stori llawn
Grwpiau cymunedol y Canolbarth yn cael eu hannog i wneud cais am gyllid bwyd cynaliadwy (08-06-2011)Mae grwpiau cymunedol yn y Canolbarth sydd eisiau cefnogi datblygiad y sector fwyd organig yng Nghymru yn cael eu gwahodd i gynnig am gyllid.
Maw Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) wedi lansio’r cynllun Cymunedau Bwyd Cynaliadwy (SFC), sy’n anelu i…
Stori llawn
Cyfrifo ôl troed cynaliadwyedd – cyfle i fusnesau (09-05-2011)Mae BOBL wedi penodi Weir Total Supply Chain Sustainability i astudio y ffordd y mae adnoddau’n cael eu defnyddio a chynaliadwyedd busnesau organig sy’n gysylltiedig â’r gadwyn gyflenwi y tu hwnt i giât y fferm. Mae cyfle ar gynnig i…
Stori llawn
Gweithdau marchnata ar gyfer busnesau garddwriaethol (27-04-2011)Mae Garddwriaeth Cymru, prosiect cadwyni cyflenwi a leolir ym Mhrifysgol Glynd^wr, yn trefnu cyfres o weithdai am farchnata arlein. Byddant yn rhyngweithiol ac ar gael i bob busnes Cymreig trwy gadwyni cyflenwi garddwriaethol, gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu i ddefnyddwyr…
Stori llawn
Adroddiad Marchnad Organig y Soil Association 2011 (07-04-2011)Cyhoeddwyd Adroddiad Marchnad Organig diweddaraf y Soil Association yn ddiweddar.
Disgynnodd gwerthiant cynhyrchion organig yn y DU 5.9% yn 2010 i £1.73 biliwn. Fodd bynnag, mae’r rhagolwg yn fwy gobeithiol.
Stori llawn
Gwobrau’r Gwir Flas 2011/12 (29-03-2011)I’ch atgoffa – Y dyddiad cau i gymryd rhan yng Ngwobrau Bwyd a Diodydd Gwir Flas Cymru yw 15 Ebrill 2011 – i gystadlu, ewch at www.truetaste.tv.
Cynhelir Seremoni Gwobrau’r Gwir Flas yng Ngogledd Cymru ar ddydd Iau 20 Hydref…
Stori llawn
Cefnogaeth ar gyfer datblygiad cyanliadwy busnesau organig (02-02-2011)M ae prosiect BOBL yn gwario £100,000 ar gymorth i fusnesau organig yng Nghymru sydd am fonitro’r defnydd maent yn gwneud o ddeunydd crai a’i heffaith ar yr amgylchedd. Bwriad y gwaith yw gwneud gwell defnydd o fewnbwniai a…
Stori llawn
Naws Cymreig ar ymgyrch newydd dros nwyddau organig (10-01-2011)Bydd Canolfan Organig Cymru (OCW) yn cefnogi ymgyrch uchel-ei-phroffil sy’n hyrwyddo bwyd organig yn y DU.
Nod yr ymgyrch £2m, a’i hariannur gan fusnesau organig ag arian cyfatebol gan yr UE yw gwahodd cwsmeriaid i ddarganfod beth mae organig yn ei…
Stori llawn
Ymgyrch newydd yn lansio i dynnu sylw at fuddion nwyddau organig (10-01-2011)Mae’r diwydiant organig yn lansio ymgyrch 3-blynedd uchel-ei-phroffil sy’n anelu at hybu twf yng ngwerthiant bwyd organig yn y DU drwy gynyddu galw cwsmeriaid amdano. Yn derbyn arian cyfatebol gan yr UE, nod yr ymgyrch £2m ‘Pam Dw i’n…
Stori llawn
Strategaeth bwyd a diod newydd (04-01-2011)Mae Elin Jones, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, a Dr Haydn E. Edwards, cadeirydd y Bartneriaeth Cynghori ar Fwyd a Diod Llywodraeth Cynulliad Cymru, wedi gosod her ddeng mlynedd i ddiwydiant bwyd a diod Cymru wrth lansio’r strategaeth fwyd Bwyd…
Stori llawn
Cefnogaeth i Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (CSA) (04-01-2011)Mae Canolfan Organig Cymru yn cefnogi Marchnadoedd Amgen Diogel megis prosiectau CSA drwy BOBL. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda chwe phrosiect ledled Cymru, gan ddarparu cyngor a gwybodaeth ar sut i sefydlu CSA, yn ogystal â darparu…
Stori llawn
Adroddiad y Gweithdy Garddwriaethol (04-01-2011)Mae adroddiad y gweithdy a gynhaliwyd yn y Ganolfan Technoleg Amgen fis Rhagfyr y llynedd ar gyfer busnesau garddwriaethol organig, yn awr ar gael ar wefan Canolfan Organig Cymru. Pe carech gael gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf, cysylltwch â
E-mail:…
Stori llawn
Gweithdy garddwriaeth (13-12-2010)Daeth tua 35 o gyfranogwyr i CAT ar gyfer y gweithdy hwn a oedd wedi’i drefnu gan Ganolfan Organig Cymru a Chynghrair Tyfwyr Cymru. Roedd y gweithdy yn cydnabod bod y rhain yn amseroedd heriol iawn i lawer o…
Stori llawn
Bara organig o Geredigion (08-12-2010)Torth o fara a wnaed o wenith organig a dyfwyd yng Ngheredigion oedd y darn canolog yn stondin Canolfan Organig Cymru yn y Ffair Aeaf eleni. Tyfwyd y gwenith ar fferm Prifysgol Aberystwyth yn Nhrawsgoed, ac fe’i melinwyd yn…
Stori llawn
Cynyrchwyr Organic yn Cymryd ei lle yn Gwobrau Cymru y Gwir Flas 2010 (12-11-2010)Mae cynhyrchwyr organig i’w weld yn aml ymysg enillwyr Gwobrau Cymru y Gwir Flas 2010. O’r 80 o wobrau roedd cynnyrch bwyd organig yn ddilyr are eu cyfer, aeth 13 i gynhyrchwyr organig ac roedd wyth o’r rhain yn…
Stori llawn
Tynnu gyda’n gilydd: gweithdy garddwriaeth (04-11-2010)Mae croeso i bob busnes organig fynychu gweithdy i drafod dyfodol garddwriaeth organig yng Nghymru, ar 3 Rhagfyr yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, Machynlleth.
Mae pedair thema eglur wedi ymddangos a fydd yn ffurfio sylfaen y gweithdai: dod o hyd i…
Stori llawn
Bwyd cynaliadwy o Gymru (04-11-2010)Wrth ddynesu at Wobrau Gwir Flas 2010, y mae’r Guardian yn rhoi sylw i rai o gynhyrchwyr a busnesau Cymru sydd wedi ennill gwobrau yn y categori Datblygiad Cynaliadwy yn y blynyddoedd diweddar. Mae’r rhain yn cynnwys Paul Benham…
Stori llawn
Bwydydd anifeiliaid wedi eu mewnforio (04-11-2010)Mae Cyfeillion y Ddaear a’r Soil Association yn ymgyrchu am fwy o gynhyrchu cig a llaeth cynaliadwy yn y DU.
Mae ymgyrch cadwyn fwyd Cyfeillion y Ddaear yn galw am lai o ddibyniaeth ar borthiant sy’n cael ei fewnforio ac sy’n…
Stori llawn
Cynhadledd cynhyrchwyr organig Cymru 21 Hydref (08-10-2010)Daeth dros 135 o bobl i Gynhadledd y Cynhyrchwyr Organig ar 21 Hydref ar faes Sioe Frenhinol Cymru. Bu Patrick Holden yn trafod ei syniadau radical ynglŷn â thrawsnewid ein systemau bwyd a ffermio diwydiannol presennol i drefn amgen sy’n…
Stori llawn
Deall ôl troed carbon yn well (08-10-2010)Mae Canolfan Organig Cymru wedi cyhoeddi taflen i helpu ffermwyr i leihau eu hôl troed carbon.
Mae’r daflen, a gynhyrchwyd fel rhan o brosiect Better Organic Business Links y Ganolfan, yn rhestru’r tablau amcangyfrif sydd ar gael i ffermwyr ac…
Stori llawn
Caws organig yn y Chwaraeon Olympaidd (08-10-2010)Bydd Sancler Organic, y cwmni caws o orllewin Cymru, yn cyflenwi Gemau Olympaidd 2012 gyda’i gaws iogwrt organig. Enillodd y cwmni gytundeb i gyflenwi bwyd i’r Gemau yn sgil ymweliad â Sioe Fwyd Arbenigol ac Amheuthun Llundain yn ddiweddar. Bydd…
Stori llawn
Bwyd a’r Gymdeithas Fawr (08-10-2010)Bydd Cynhadledd Genedlaethol flynyddol y Soil Association yn cael ei chynnal ar 9/10 Chwefror yn Neuadd y Dref, Manceinion. Bydd y gynhadledd yn trafod sut y gall bwyd a ffermio fod yn gyfrwng ar gyfer mynd i’r afael â rhai…
Stori llawn
Seminarau Asesu Risg ar gyfer tyfwyr cnydau bwytadwy (07-10-2010)Mae’r Llywodraeth a manwerthwyr yn mynd ati’n barhaus i geisio lleihau’r risg o halogi cynnyrch ffres yn microbaidd. Mae’r HDC a’r ASB wedi dod ynghyd i ariannu pecyn o waith i helpu tyfwyr i gyflawni hyn, gan gynnwys taflen ffeithiau…
Stori llawn
Marchnata Cynnyrch Organig mewn Byd sy’n Newid (04-10-2010)Mae’r prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig (BOBL) wedi cyhoeddi adolygiad o wybodaeth ar agwedd cwsmeriaid at gynnyrch organig o Gymru. Cafodd yr adolygiad ei gynhyrchu can Beaufort Research ac mae wedi seilia ar ddata wedi ei gasglu ar bryniant…
Stori llawn
Gweithdy i gynorthwyo busnesau garddwriaethol mewn cyfnod o galedi. (14-09-2010)Mae Canolfan Organig Cymru yn trefnu gweithdy i fusnesau garddwriaethol, organig yng Nghymru i geisio penderfynu ar y ffordd ymlaen i’r sector. Mae ein gwaith diweddar wedi amlygu’r amodau anodd y mae busnesau ym mhob rhan o’r gadwyn gyflenwi yn…
Stori llawn
Strategaeth bwyd (13-09-2010)Strategaeth Bwyd
Mae’r Strategaeth Bwyd a Diod hir-ddisgwyledig “Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010-2020” wedi ei lansio. Mae LlCC yn awyddus i gael adborth gan unigolion, felly, ewch i www.cymru.gov.uk/bwyd ac ymatebwch yn uniongyrchol. Pe carech gyfrannu at ymateb…
Stori llawn
Arweinwyr organig i drafod y dyfodol (02-09-2010)Ym mis Hydref, bydd ffigurau allweddol o fyd manwerthu, prosesu, cynhyrchu a marchnata’n trafod cynnydd y sector organig gan ystyried ffyrdd o sicrhau y bydd bwyd a ffermio organig yn tyfu’n barhaus. Mae Ffermwyr a Thyfwyr Organig yn cydweithio â…
Stori llawn
Mis y gwyliau bwyd (02-09-2010)Mae mis Medi’n llawn gwyliau bwyd a diodydd i ymweld â nhw, gan gynnwys yr Ŵyl Bwyd Organig (11 a 12 Medi). Cewch brynu cynnyrch organig o dros 200 o stondinau a gwylio cogyddion megis Raymond Blanc, Giorgio Locatelli, Oliver…
Stori llawn
Defnyddwyr yn ‘hollol anymwybodol o les anifeiliaid’ (02-09-2010)Mae Prif Weithredwr Freedom Food wedi honni nad oes gan y rhan fwyaf o ddefnyddwyr fawr o syniad am sut fywyd sydd gan yr anifeiliaid sy’n cael eu cynnwys yn y bwyd y maent yn ei brynu. Mae’r RSPCA wedi…
Stori llawn
Arlwyo yn y sector cyhoeddus (03-08-2010)Gwahoddir cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru i wneud cais am gyllid i’w helpu i ffynhonellu mwy o fwyd cynaliadwy, Bydd y prosiect Best Food Forward a drefnir gan ‘Forum for the Future’ gyda chefnogaeth y Gronfa ‘Waterloo’ yn cydweithio…
Stori llawn
Cefnogaeth i’r sector llaeth (03-08-2010)Y mis diwethaf, lansiodd Gweinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, brosiect newydd a luniwyd i gefnogi’r diwydiant llaeth yng Nghymru er mwyn gwella effeithlonrwydd, cynaliadwyedd a gwerth ychwanegol y gadwyn cyflenwi llaeth.
Dywedodd: “Mae’n amser pwysig yn awr i…
Stori llawn
2 filiwn ar gyfer ymgyrch yn y DU (27-07-2010)Mae’r UE wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer ymgyrch hyrwyddo generig gyntaf y DU i gynyddu ymwybyddiaeth o fanteision bwyd a ffermio organig, gan roi hwb o £2 filiwn i’r diwydiant organig yn y DU dros y tair blynedd nesaf.
Gweler www.whyiloveorganic.co.uk
Stori llawn
Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru 2010:2020 (07-07-2010)Diben ymgynghoriad newydd ar Strategaeth Fwyd ar gyfer Cymru yw cael barn unigolion a chyrff am strategaeth bwyd arfaethedig Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer Cymru. Mae’r strategaeth yn agwedd trawsbynciol fel sylfaen ar gyfer gweithio’n integredig ar bolisi bwyd ar…
Stori llawn
Fforch-i-fforc: hybu bwyd leol yng Nghymru (07-07-2010)Gwefan newydd yw Fforch-i-fforc gyda gwybodaeth am fwyd leol, gan gynnwys marchnadoedd ffermwyr, siopau fferm, cynhyrchwyr ar-lein a chynlluniau blychau lleol.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol i gynhyrchwyr, gan gynnwys astudiaethau achos a chylchlythyron.
Gweler www.Fork2fork.org.uk
Mae ymgyrch fforch-i-fforc yn ymgyrch…
Stori llawn
Prosiect DairyCo yn gafael mewn her amgylcheddol (17-06-2010)Mae DairyCo wedi gosod allan manylion prosiect tair blynedd arloesol i ddarganfod meincnod pwysit trwy mesur ol-troed carbon ar ffermydd llaeth ym Mhrydain.
"Bydd y prosiect ym yn ein galluogi i glustnodi ‘hot spots’ allweddol ar-fferm er mwyn gwella effeithiolrwydd…
Stori llawn
Datblygu delwedd y sector organig yng Nghymru (03-06-2010)Mae Canolfan Organig Cymru yn gwahodd cwmnïau cyfathrebu i gynnig am waith datblygu delwedd cynnyrch organig o Gymru. Bydd y gwaith yn gymorth i hyrwyddo cynnyrch organig Cymreig o fewn Cymru ac ar draws y DU am ddwy flynedd.
Cyllidwyd…
Stori llawn
Gardd farchnad organig ar gyfer Caerdydd (01-06-2010)Mae’r Riverside Community Market Association yn gwerthu cyfranddaliadau yn ei brosiect newydd, sef llain o dir 10 erw y tu allan i Gaerdydd. Fe fydd yn cynhyrchu ystod eang o lysiau organig, gan ganolbwyntio ar gnydau o werth uwch fel…
Stori llawn
Caffael bwyd yn gynaliadwy ar gyfer y sector cyhoeddus (01-06-2010)Mae ‘Sustain’ yn cynnal ymgyrch a elwir yn ‘Good food for our money’, sy’n galw am ddeddfwriaeth yn Lloegr i osod safonau ar gyfer bwyd y sector cyhoeddus fel ei fod yn iach, yn dda ar gyfer yr amgylchedd…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Cig a Da Byw (20-05-2010)Cynhyrchwyr y Graig: Adroddiad Mai 2010 gan Nigel Elgar
Mae cig oen yn brin iawn. Mae cig oen organig y tymor newydd yn dod ymlaen mewn niferoedd bychain iawn am bremiwm o oddeutu 20c/kg (4%) dros hesbinod organig. Mae’r…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Grawn (20-05-2010)Y Diweddaraf am y Farchnad gan Simon Tubbs, Norton Organics
Ar yr ochr wenith, mae yna ychydig o ddefnyddwyr sy’n tacluso’r hen gnwd cyn i’r cynhaeaf newydd ddechrau. Mae eithaf tipyn o wenith ar werth yng Ngogledd y Wlad a…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Llaeth (20-05-2010)Adroddiad OMSCo ar gyfer Mai gan Huw Bowles
Mae’r tywydd yn parhau i gael effaith arwyddocaol ar gyflenwad llaeth organig yng Nghymru. Roedd cyflenwadau tebyg wrth debyg o’r 72 o gynhyrchwyr organig sy’n cyflenwi OMSCo yn Ebrill i lawr 1.7%…
Stori llawn
Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010–2011 (20-05-2010)Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer Gwobrau Bwyd a Diod Cymru y Gwir Flas 2010–2011. Eleni maent yn annog pawb i wneud cais ar-lein ar www.gwirflas.tv.Gellwch hefyd alw’r llinell gymorth ar 0800 085 3663. Y dyddiad cau ar gyfer…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Prisiau Manwerthu (28-04-2010)Prisiau Organig Cyfredol (£) :
Cynnyrch Tesco ASDA
Llaeth cyflawn org 568ml 0.53 0.53
Org lled sgimskim 568ml 0.53 0.53
Org sgim 568ml 0.53 0.53
Steciau coes oen org y kg 14.98 14.98
Briwgig oen 500g 2.98 3.32
Tatws organig 2 kg .n/f .n/f
Stêc ffolen eidion org y kg 11.47 11.47
Briwgig eidion org 500g 2.94 2.94
Stêc syrlwyn eidion org y kg 15.46 15.46
Ar wefan…
Stori llawn
Newyddion BOBL (28-04-2010)Bwriad prosiect BOBL yw cynorthwyo’r cynhyrchydd sylfaenol yng Nghymru a meithrin marchnad ar gyfer cynnyrch organig Cymreig mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y prosiect yn datblygu marchnadoedd hen a newydd i gynnyrch organig gan sbarduno arloesedd ar bob lefel yn y…
Stori llawn
Adroddiad Suzanne Rees, Organic Fresh Food Company (28-04-2010)Mae’r tywydd godidog wedi codi calon pawb ac mae tyfwyr wedi bod allan yn trin y tir a phlannu o dan amodau sydd bron â bod yn berffaith. Fodd bynnag, mae nosweithiau oer yn dal i achosi problemau gyda phethau’n…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Cig a Da Byw (28-04-2010)Cynhyrchwyr y Graig: Adroddiad Nigel Elgar, Ebrill 2010
Mae hesbyniaid organig yn brin ofnadwy ac mae’r prinder yn debygol o barhau nes bydd nifer go lew o ŵyn newydd y tymor ar gael. Nid yw prisiau eidion o dan a thros…
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Grawn (28-04-2010)Y diweddaraf o’r farchnad 20 Ebrill 2010 gan Simon Tubbs Norton Organics
Mae’r marchnadoedd yn gymharol sefydlog. Mae’r tywydd gwell wedi arwain at ostyngiad cyflym yn y galw am borthiant stoc. Fodd bynnag, o hyd, ceir llawer o wenith i’w werthu….
Stori llawn
Y Farchnad Organig – Godro (28-04-2010)Adroddiad Ebrill OMSCo gan Huw Bowles
Mae’r tywydd yn dal i amharu ar gyflenwadau llaeth. Golygai’r gaeaf hir, oer a gwlyb fod silwair yn mynd yn brin gyda nifer o gynhyrchwyr a bu’n rhaid i rai droi at gael dirymiad er…
Stori llawn
Cynhadledd i athrawon: Tyfu’r Dyfodol (28-04-2010)Cynhaliwyd cynhadledd yng Ngardd Fotaneg Cymru, 19 Ebrill, 2010, i ymgynghori ag athrawon ynglŷn â’r modd y mae addysg fwyd a ffermio’n cael ei chyflwyno mewn ysgolion. Traddodwyd yr araith gyweirnod gan Wynfford James o’r Adran Materion Gwledig, ar ran…
Stori llawn
Arolwg cynhyrchwyr organig 2009 (28-04-2010)Mae adroddiad llawn o arolwg cynhyrchwyr 2009 yn awr ar gael ar wefan Canolfan Organig Cymru. Mae’n cynnwys gwybodaeth am niferoedd da byw, agweddau cynhyrchwyr, barn cynhyrchwyr ynglŷn â phrisiau a datblygiad y farchnad.
Gallwch lawrlwytho’r adroddiad yn fan hyn.
Stori llawn
Ffeithlenni newydd: labelu cynhyrchion organig, a thechnoleg genynnau (26-04-2010)Mae rheoliad organig newydd yr UE wedi cyflwyno newidiadau pwysig o safbwynt labelu cynhyrchion organig. Os ydych yn pecynnu ac/neu’n gwerthu unrhyw gynnyrch organig, dylech ddarllen ein ffeithlen newydd: Labelu cynhyrchion organig: newidiadau yn y rheoliadau.
Mae’r term ‘technoleg enetig’ yn…
Stori llawn
Llais i’r DU yn Ewrop (26-04-2010)Cymerodd Sue Fowler, Cyfarwyddwr Canolfan Organig Cymru, ran yng nghyfarfod cangen y DU o grwp Undeb Ewropeaidd IFOAM a gynhaliwyd yn y Sioe Cynhyrchion Naturiol ac Organig yn Olympia ar ddydd Llun, 12 Ebrill. Cynhaliwyd y cyfarfod yno er mwyn…
Stori llawn
Adroddiad Marchnad Organig y Soil Association 2010 (26-04-2010)Cyhoeddwyd Adroddiad Marchnad Organig diweddaraf y Soil Association ar ddydd Llun, 12 Ebrill. Disgynnodd gwerthiant cynhyrchion organig yn y DU 12.9% yn 2009 i £1.84 biliwn. Eto, er gwaethaf yr hinsawdd economaidd galed, y mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod…
Stori llawn
Holiadur Twristiaeth (07-04-2010)Diolch o galon i’r cynhyrchwyr hynny a ymatebodd i’n cais am wybodaeth am eu mentrau twristiaeth, a hynny naill ai drwy lenwi eu ffurflen a’i dychwelyd i Ganolfan Organig Cymru, neu drwy ateb cwestiynau dros y ffôn. Fel rhan…
Stori llawn
Y Rheswm Dwi’n Caru Organig (22-03-2010)Mae ymgyrch y Bwrdd Masnach Organig bellach wedi lansio gwefan i gefnogi’r ymgyrch. Os am ddysgu mwy ac i edrych ar sut mae’n mynd ymwelwch â: whyiloveorganic.org.uk. Mae’r ymgyrch wedi’i hariannu gan roddion gan gynhyrchwyr organig sydd wedi addo dros…
Stori llawn
Strategaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Integredig (22-03-2010)Cyn bo hir, gwahoddir cwmnïau i dendro ar gyfer datblygu a chyflenwi strategaeth cysylltiadau cyhoeddus integredig i’r sector organig yng Nghymru. Bydd y strategaeth yn adeiladu ar ganlyniadau’r arolwg o agweddau defnyddwyr gan integreiddio â’r ymgyrch UK Organic sydd eisoes…
Stori llawn
Arolwg o Agweddau Defnyddwyr (22-03-2010)Yn dilyn cyflwyniadau gan dri thendr ar restr fer, mae’r contract i gynnal Arolwg o Agweddau Defnyddwyr wedi’i roi i Beaufort Research. Mae’r cyflwyniadau wedi ysgogi dadl a ddylai’r arolwg ddilyn llwybr ansoddol neu feintiol, hy, a ddylai’r gwaith astudio…
Stori llawn
Gwobr i arloeswr ffermio organig (15-03-2010)Mae Bob Kennard wedi cael ei wneud yn Aelod o’r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol am ei waith arloesol y maes cynhyrchu bwyd organig a marchnata cydweithrediadol.
Sefydlwyd Cynhyrchwyr y Graig gan Bob a’r wraig Carolyn yn gynnar yn y 1990au…
Stori llawn
Dyfodol Bwyd (01-03-2010)Mae adroddiad o gynhadledd ddiweddar y Soil Association yn awr ar gael. Mae’n cynnwys recordiadau o’r prif siaradwyr, gan gynnwys Monty Don, Graham Harvey a Joanna Blythman, Patrick Holden, Oliver Walston a Jeannette Orreg. Yn ogystal, ceir adroddiadau o rai…
Stori llawn
Masnach Deg yn ffynnu – beth am organig? (01-03-2010)Dengys ffigurau a gyhoeddwyd ar ddechrau Pythefnos Masnach Deg fod gwerthiannau cynhyrchion masnach deg wedi tyfu 12% yn ystod 2009, tra bod gwerthiannau cynhyrchion organig wedi disgyn 31% ar gyfer bara ac 16.5% yng nghyswllt ffrwythau. Dyma oedd gan Sue…
Stori llawn
Diweddariad ar brosiect BOBL mis Chwefror 2010 (24-02-2010)Bwriad prosiect BOBL yw cefnogi’r cynhyrchwr sylfaenol yng Nghymru a thyfu’r farchnad ar gyfer cynnydd organig Cymreig mewn ffordd gynaliadwy. Bydd y prosiect yn datblygu marchnadoedd newydd a rhai sy’n ymddangos ar gyfer cynnyrch organig wrth hybu arloesedd ym mhob…
Stori llawn
Sôn am Fwyd 2010 (11-02-2010)Mae Sôn am Fwyd yn tynnu at ei gilydd grwp o sefydliadau a busnesau sydd yn angerddol am fwyd a diod o Ganolbarth Cymru. Fe gynhelir cyfres of ddigwyddiadau o gwmpas Cymru yn ystod mis Chwefor, Mawrth ac Ebrill, gyda…
Stori llawn
Tir Organig ar gael i’w lawrlwytho (10-02-2010)Mae rhifyn Chwefror 2010 o Tir Organig ar gael nawr, gyda chanlyniadau’r arolwg cynhyrchwyr 2009. Diolch i’r 618 o gynhyrchwyr a gwblhaodd yr Arolwg, a wnaed o dan Raglen Datblygu
Organig Cyswllt Ffermio.
llawrlwytho Tir Organig
Stori llawn
Logo organig newydd yr UE (09-02-2010)Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn swyddogol wedi cyhoeddi enillydd y gystadleuaeth ar gyfer logo organig yr UE. Mae’r cynllun arobryn wedi’i ddylunio gan Dusan Milenkovic, myfyriwr o’r Almaen a enillodd 63% o’r holl bleidlais.
O 1 Gorffennaf 2010, bydd y logo’n…
Stori llawn
PR Organig, Organic UK (08-02-2010)Yn sicrhau bod cwsmeriaid a budd-ddeiliaid yn deall bod amcanion a heriau cynhyrchu organig yn bwysig i ddatblygiad cynaliadwy’r sector organig.
Ymgyrch wedi ei ariannu gan gonsortiwm o busnesau organig yw Organic UK sydd wedi codi arian o’r…
Stori llawn
Sut ydych chi eisiau i’ch busnes ddatblygu? (08-02-2010)Mae Gwell Cysylltiadau Busnes Organig wedi comisiynu rhaglen cwrdd-â’r-prynwr er mwyn rhoi cyfle gwych i gynhyrchwyr organig ddysgu mwy am y marchnadoedd y maent yn eu cyflenwi, a sicrhau’r wybodaeth a’r cysylltiadau sydd eu hangen arnynt i symud i farchnadoedd…
Stori llawn
Gwybodaeth am y farchnad (08-02-2010)Un o amcanion allweddol prosiect Gwell Cysylltiadau Busnes Organig yw rhoi gwybodaeth i gynhyrchwyr a budd-ddeiliaid am y farchnad ac fe’i cyflwynir trwy gyhoeddi adroddiadau ar y prif sectorau.
Mae adroddiadau wedi’u comisiynu eisoes i adolygu’r farchnad…
Stori llawn
Adeiladu cadwyn gyflenwi garddwriaethol (04-02-2010)Mae prosiect garddwriaethol newydd gwerth £1.64 miliwn newydd ddechrau trwy’r Cynllun Effeithlonrwydd Cadwyn Gyflenwi, sy’n rhan o Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007-2013.
Bydd Prifysgol Glyndwr, sydd wedi ei lleoli yn Llaneurgain, Sir y Fflint, yn casglu gwybodaeth am…
Stori llawn
Ffrwythau meddal yn yr ucheldir (04-02-2010)Mae Stoc Ffrwythau Cymreig wedi bod yn gwerthu eu planhigion ffrwythau meddal o’u fferm 1000 troedfedd o uchder ger Kington, Powys ers 1991, ac wedi bod yn organig ers 2000. Llynedd, tyfodd y fferm rhyw 15,000 o lwyni cyrens…
Stori llawn
Adroddiad ar agweddau defnyddwyr (04-02-2010)Mae’r argyfwng ariannol a’r dirwasgiad dilynol wedi gorfodi defnyddwyr i ailfeddwl am eu penderfyniadau prynu ar draws eu holl wariant, gan gynnwys bwyd.
Yn gyffredinol, mae’r defnydd o nwyddau organig wedi ffynnu ond mae cynhyrchwyr yn gorfod gweithio’n galetach…
Stori llawn
Swydd wag: Swyddog Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi (25-01-2010)Mae’r prosiect BOBL yn chwilio am yr unigolyn iawn i ddatblygu marchnadoedd newydd neu rhai sy’n bodoli’n barod ar gyfer cynnyrch organig. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio gyda cwmnïau bwyd, cwmniau arlwyaeth a swyddogion caffael o’r sector gyhoeddus. Mae’r…
Stori llawn
Ymgyrch Hyrwyddo Organig UK (21-01-2010)Mae’ch diwydiant eich angen chi! Gwnewch addewid i roi arian heddiw i Organic UK. Bydd pob rhyw dipyn sy’n cael ei addo yn gwneud gwahaniaeth. llawrlwythwch wybodaeth
Stori llawn
Eating the planet (20-01-2010)Mae Compassion in World Farming a Chyfeillion y Ddaear wedi cyhoeddi Eating the planet? How we can feed the world without trashing it, sydd yn dweud y gallai cymysgedd o ffermio organig a ffermio da byw rhydd fwydo’r byd yn…
Stori llawn
Cymru Carbon Isel (20-01-2010)Mae adroddiad gan Gomisiwn Datblygu Cynaliadwy Cymru yn amlinellu cynllun ar gyfer trawsnewid i economi carbon isel, gan gynnwys tai, cludiant, bwyd, yr amgylchedd naturiol, yr economi a chymdeithas. Caiff bwyd organig a chaffael lleol eu crybwyll yn ogystal. Lawrlwythwch…
Stori llawn
Dewisiwch logo organig newydd (10-12-2009)Pleidleisiwch dros logo newydd yr UE: cliciwch yma. Y dyddiad cau yw 31 Ionawr 2010 a bydd y logo newydd yn gael ei ddefnyddio o fis Gorffennaf 2010 ymlaen.
Stori llawn
Cinio ysgol gyda bwyd lleol yng Nghonwy (10-12-2009)Trefnodd Canolfan Organig Cymru ginio ysgol gyda bwyd lleol ac organig.
Stori llawn
Gwobrau Bwyd a Ffermio’r BBC (07-12-2009)Congratulations to Riverside Community Market Association, runners up in the Best Food Market Category. BBC website
Stori llawn
Cyfarwyddiadur bwyd organig (07-12-2009)Mae Canolfan Organig Cymru yn diweddaru argraffiad 2008/09 o Organig yn Lleol: Lle i brynu bwyd a diod ffres, lleol ac organig yng Nghymru. Fe fydd i’w gael ar y we yn unig ar y dechrau, ond gobeithiwn ei argraffu…
Stori llawn
Gwobrau’r Gwir Flas 2009/10 (07-12-2009)Gwobrau Gwir Flas 2009/10
Llongyfarchiadau calonnog i’r cynhyrchwyr organig hynny sydd eisoes wedi cipio llawer o’r prif wobrau yng Ngwobrau Gwir Flas yn gynharach y mis hwn. Enillodd Sam a Rachel Holden o Fwlchwernen Fawr, gwneuthurwyr caws Hafod, ddwy wobr…
Stori llawn
Staff wedi eu penodi i brosiect BOBL (07-12-2009)Mae’r prosiect ‘Gwell Cysylltiadau Busnes Organig’ (BOBL) wedi cymryd cam arall ymlaen gyda phenodiad Dafydd Owen a Jane Vine. Mae Dafydd yn ymuno â’r tîm ar ôl bod yn gweithio gyda chwmni cysylltiadau cyhoeddus StrataMatrix, a bu hefyd yn gweithio…
Stori llawn
Gwobrau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer bwyd organig (04-11-2009)Mae Cynan Jones o The Mushroom Garden, Beddgelert, yn un o bump enillydd Fine Farm Produce Awards yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n cynhyrchu madarch shiitake, ‘chestnut’ a wystrys y coed ac yn cyflenwi sawl ty bwyta.
Enillydd arall oedd…
Stori llawn
Newyddion diweddaraf